Hwb i Letygarwch ac Arlwyo yn Aberhonddu

Mae Lletygarwch ac Arlwyo yn dychwelyd i’r cwricwlwm yn Aberhonddu, wrth i Grŵp Colegau NPTC gwblhau cynlluniau i feddiannu  cyn dafarn a bwyty yng nghanol y dref.

Bydd The Bank, sydd wrth ymyl Y Gaer a gyferbyn â Wotton Mount, sydd ill dau yn rhan o Goleg Bannau Brycheiniog, yn dod yn faes hyfforddi i fyfyrwyr sydd am fynd i fyd lletygarwch ac arlwyo.

Mae’r cynlluniau’n cynnwys adnewyddu’r adeilad a fydd yn ail-agor fel bwyty gwasanaeth arian yn cael ei redeg yn bennaf gan fyfyrwyr y Coleg dan gyfarwyddyd staff profiadol.

Mae’r Coleg wedi bwriadu cyflwyno lletygarwch ac arlwyo yn ôl i’r cwricwlwm ers iddynt gael eu dileu cyn uno Coleg Castell-nedd Port Talbot a Choleg Powys yn 2013.

Mae’r Coleg eisoes yn rhedeg dau fwyty hyfforddi llwyddiannus, Blasus yng Ngholeg Castell-nedd a Themâu yng Ngholeg y Drenewydd, sydd ill dau ar agor i’r cyhoedd. Mae’r Coleg hefyd yn rhedeg y Pafiliwn, bwyty a bar chwaraeon llwyddiannus yn Academi Chwaraeon Llandarcy.

Dywedodd y Prif Weithredwr Mark Dacey y byddai’r cynlluniau nid yn unig yn darparu cyfleoedd gwych i fyfyrwyr, ond hefyd o fudd i’r gymuned a sefydliadau eraill sy’n chwilio am staff o safon sydd wedi’u hyfforddi gan y diwydiant.

“Mae Lletygarwch ac Arlwyo yn y pedwerydd safle o ran y maes cyflogaeth uchaf yn y sir. Mae 4,000 o swyddi mewn llety a gweithgareddau gweini bwyd, sef 8.7% o’r boblogaeth yn erbyn cyfartaledd y DU o 7.5% (Nomis 2021), fodd bynnag, ni fu digon o gyfleoedd ar gyfer hyfforddiant lletygarwch ffurfiol yn ne’r sir.”