Ffilm fer bwerus myfyriwr am fywydau Wcraniaid yn y DU

Portrait photo of student Lora Arkhypenko on pale ble background.

Mae myfyriwr Coleg y Drenewydd, Larysa Arkhypenko, sy’n cael ei hadnabod yn y coleg fel Lora, wedi cynhyrchu rhaglen ddogfen bwerus yn adrodd straeon Wcraniaid gwydn yn adeiladu bywydau newydd yn y DU.

Mae Lora, sydd ar hyn o bryd yn cwblhau cwrs ESOL (Saesneg ar gyfer Siaradwyr Ieithoedd Eraill), hefyd wedi cwblhau Diploma Proffesiynol Lefel 4 mewn Ymarfer Technegol a Chynhyrchu ar gyfer y Diwydiannau Creadigol yn llwyddiannus yng Ngholeg y Drenewydd. Cynhyrchodd y ffilm fer fel rhan o’i hastudiaethau Lefel 4, gan ddewis cipio teimladau a phrofiadau Wcraniaid wrth iddynt adeiladu bywydau newydd yma yn y DU.

Daw Lora o Odessa yn Ne Wcráin. Cyrhaeddodd y DU ym mis Mai, 2022. Fel llawer o Wcraniaid eraill sy’n byw yma erbyn hyn, daeth i Brydain yn bennaf am ddau reswm – dyma’r wlad Saesneg ei hiaith agosaf at Wcráin ac mae ganddi system addysg ag enw da iawn, a oedd yn bwysig i Lora gan fod ganddi ferch o oedran ysgol.

Wrth siarad â Lora am ddod i Gymru dywedodd: “Fe ddaethon ni o hyd i deulu anhygoel sy’n byw ar y ffin â Chymru wnaeth ein gwahodd ni yma ac wedyn wnaethon ni ddim meddwl am unrhyw lefydd eraill, dim ond i fod mewn lle diogel.”

Mae’r ffilm yn adrodd hanesion teuluoedd gwahanol, y problemau sydd ganddyn nhw a sut maen nhw’n eu datrys, a sut maen nhw’n parhau i fyw. Mae’n canolbwyntio ar fywydau menywod yn arbennig oherwydd eu bod wedi bod yn wynebu heriau newydd.

Wrth drafod y ffilm, dywedodd Lora: “Dyma stori fy mhobl a’u bywydau. Roeddwn i eisiau dangos sut mae Wcraniaid yn bwerus. Mae’r pŵer hwn y tu mewn a does dim ots ble maen nhw – yn yr Wcrain neu’r tu allan i’r Wcráin. Penderfynais ddangos sut mae Wcraniaid yn ymdopi yn y DU oherwydd rydw i yma ac un diwrnod gwnaeth fy mywyd ynghyd â chymaint o bobl eraill newydd newid.”

Aeth hi ymlaen i ddweud: “Wrth gwrs rwy’n poeni am bopeth sy’n digwydd yn fy ngwlad a thu allan gyda theuluoedd Wcrain, ond dyma’r peth y gallaf ei wneud ar hyn o bryd. Gallaf atgoffa’r byd i gyd eto amdano, i’w hatgoffa bod hyn yn dal i fynd ymlaen. Rwy’n meddwl bod pawb yn dechrau anghofio amdano. Ond dyma fy myd a byd holl bobl Wcrain, un a gwympodd yn sydyn ac sydd wedi newid.”

Mae Lora yn bwriadu gwneud cais i drefnu dangosiadau o’r ffilm i godi arian er mwyn gwneud ceisiadau i wyliau ffilm i gyrraedd cynulleidfa ehangach gyda’i ffilm.

Meddai Steve Bellis, Darlithydd Cyfryngau Coleg y Drenewydd: “Mae Lora wedi dangos sgil a phenderfyniad i gynhyrchu ffilm mor bwerus sy’n haeddu cael ei gwylio yn y brif ffrwd. Mae nid yn unig yn stori anhygoel ond mae wedi cael ei strwythuro a’i ffilmio gan Lora mewn modd mor broffesiynol.”