Medalau yn Rowndiau Terfynol Cenedlaethol WorldSkills UK

Llongyfarchiadau i’r holl fyfyrwyr o Grŵp Colegau NPTC a gystadleuodd yn Rowndiau Terfynol Cenedlaethol Wordskills UK ym Manceinion.  Roedd unarddeg o fyfyrwyr yn cynrychioli’r Coleg, ar draws chwe maes sgiliau – a daethant â medalau adref.

Roedd y terfynwyr ymhlith y perfformwyr o’r radd uchaf yn y DU yn eu disgyblaethau priodol ar ôl cyfres o rowndiau cymhwysol rhanbarthol ac roeddent yn cynrychioli’r gorau o’r gorau yn y DU.

Roedd 500 o gyfranogwyr o bedwar ban y DU mewn ystod o gystadlaethau sgiliau, yn cynnwys Cyfrifeg, Atgyweirio Cerbydau, Garddwriaeth a Thechnegydd ladordy (o Goleg Castell-nedd a Choleg Pontardawe) a Melysion a Patisserie, Y Celfyddydau Coginio a Gwasanaeth Bwyty (o Goleg Y Drenewydd).

Cafodd nifer o fyfyrwyr eu hadnabod yn ffurfiol am lefel eu sgiliau ac enillwyd y gwobrau canlynol ganddynt.

Wedi’u cymeradwyo’n uchel: Y Celfyddydau Coginio, Gabrielle Wilson; Medal Efydd: Sgiliau Sylfaen, Garddwriaeth, Joshua Miles; Medal Arian: Ailorffennu Cerbydau Modur, Victoria Steele; Medal Arian, Technegydd Cyfrifeg, Toni Borgia, Elena Ciota a Rebecca Smith

Dywedodd Mark Dacey, Prif Weithredwr Grŵp Colegau NPTC: “Rydyn ni i gyd yn hynod o falch o’r holl fyfyrwyr sydd wedi cymryd rhan yn y gystadleuaeth.  Mae’n cymryd ymdrech enfawr a llawer o sgiliau i gyrraed y lefel hon ac wedyn i gael eich cydnabod fel enillydd, mae hynny’n gamp enfawr.  Llongyfarchiadau i bawb! “

Ychwanegodd Ian Lumsdaine, Cyfarwyddwr Sgiliau yng Ngrŵp Colegau NPTC: “Rydyn ni’n hynod o falch o’r ffordd y mae ein 11 myfyriwr wedi cynrychioli;r Coleg a Thîm Cymru mewn rowndiau terfynol Worldskills y DU.  Maen nhw’n ymhlith y gorau oll yn y DU ac mae hyn yn gamp ffantastig.”

Mae cystadlaethau WorldSkills UK wedi’u dylunio gan arbenigwyr y diwydiant gan wella’r sgiliau a gwybodaeth ymarferol a ddysgir ar y cyrsiau hyfforddi trwy asesu priodoleddau cyflogadwyedd yr unigolyn yn erbyn meini prawf gosod mewn awyrgylch cystadleuol amseredig.