Digwyddiadau Ymgysylltu Grŵp Colegau NPTC

Spring Board to Access, showing professionals at work in a range of different job roles

Bydd Grŵp Colegau NPTC allan yn llu ar draws Powys a De Cymru dros y pythefnos nesaf mewn digwyddiadau ymgysylltu a nosweithiau agored.

Os ydych am ddysgu rhagor am ein cyrsiau neu gyfleusterau, bydd ein tîm yn eich helpu trwy ddarparu unrhyw wybodaeth sydd ei hangen arnoch.

Gyda sesiynau ymrestru mis Ionawr yn dod yn fuan, manteisiwch ar y cyfle hwn i gael gafael ar fwy o wybodaeth am ein cyrsiau amser llawn a rhan-amser yn cynnwys y cyrsiau Springboard to Access sydd newydd gael eu lansio.

Mae’r Cwrs rhan-amser Springboard to Access yn Sbringfwrdd i Addysg a gynhelir o fis Ionawr tan fis Mehefin 2024. Mae’r cymhwyster hwn yn darparu cyfle dysgu newydd a hyblyg i ddatblygu unigolion o unrhyw oedran a lefel er mwyn iddynt gyflawni eu potensial llawn. Mae’r cymwyster yn anelu at ddatblygu sgiliau i astudio ar lefel 3 ynghyd ag ymwybyddiaeth o gyfleoedd dilyniant o ran gyrfaoedd neu astudiaethau pellach.

Cynhelir dosbarthiadau yng Nghastell-nedd bob dydd Gwener gyda sesiynau o bell yn cael eu cynnal bob bore dydd Llun neu bob nos Fercher. Ar y diwedd, byddwch yn derbyn Tystysgrif Lefel 2 mewn Sgiliau ar gyfer Astudiaethau Pellach.

Felly, os ydych yn crwydro o gwmpas unrhyw un o’r lleoliadau isod, galwch heibio a dywedwch Helo!

Nosweithiau Agored:

  • 22/11/23 Coleg Afan.
  • 22/11/23 Coleg Bannau Brycheiniog.
  • 22/11/23 Y Gaer – Aberhonddu.
  • 22/11/23 Y Cwtch – Aberhonddu.
  • 23/11/23 Coleg Castell-nedd.
  • 23/11/23 Coleg Y Drenewydd.

Digwyddiadau Ymgysylltu:

  • 21/11/23 – Tesco yn Y Trallwng.
  • 22/11/23 – Canolfan Byd Gwaith Aberhonddu

I gadw eich lle mewn un o’n nosweithiau agored cliciwch isod

Nosweithiau Agored