Mae Coleg y Drenewydd wedi cael ei ddethol i fod yn hyfforddwyr yn yr Efrog Newydd

Roedd Coleg Y Drenewydd wrth ei fodd i ddod yn bartner gyda hyfforddiant Beestera Soccer i gynnal diwrnod recriwtio yng nghlwb pêl-droed y Trallwng gyda’r cyfle i ennill cyfleoedd hyfforddi yn yr Efrog Newydd dros yr haf 2024.

Daeth wyth hyfforddwr o bedwar ban y Canolbarth i’r digwyddiad a drefnwyd gan Beestera mewn cydweithrediad â Gareth Watkins Darlithydd Chwaraeon Coleg Y Drenewydd a Hyfforddwr Pêl-droed y Trallwng.  Roedd gan bob hyfforddwr 15 munud i ddangos eu sgiliau hyfforddi ar ôl cael eu gwahodd yn llwyddiannus i ddod i’r digwyddiad. Roedd yr asesiad yn rhan o’r broses ymgeisio gyda’r gobaith o gael cynnig cyfle i hyfforddi yn yr Efrog Newydd am hyd at naw wythnos dros yr haf 2024. Mae Beestera Soccer yn cynnig y pecyn cyflogaeth dros yr haf mwyaf buddiol ac maent yn dethol yr hyfforddwyr o’r ansawdd blaenaf y unig.

Dywedodd Darlithydd Coleg Y Drenewydd Gareth Watkins: “Mae’n wych bod pobl ifanc yn cael y cyfle hwn ac rydw i wrth fy modd i weld nifer o fyfyrwyr y coleg ymhlith y rheiny a gafodd eu gwahodd i gymryd rhan yn y digwyddiad hwn.  Mae’r ffaith bod Kurtis Smith cyn-fyfyriwr Coleg Y Drenewydd yn un o’r unigolion a oedd yn rhan o’r broses ddethol yn rhoi boddhad mawr i ni.”

Aeth Gareth ymlaen i ddweud diolch i’r holl hyfforddwyr, Beestera Soccer a Thîm Iau U10 Y Trallwng am wneud y digwyddiad yn bosib.

Mae Kurtis Smith a astudiodd chwaraeon yn Y Drenewydd yn 2013 yn Brif Hyfforddwr Beestera a Hyfforddwr yr Uwch Dîm Menywod hefyd erbyn hyn.

Dywedodd: “Coleg Y Drenewydd oedd dechrau fy naith hyfforddi fy hun a dylanwad mawr arf y mhenderfyniad i balu mlaen i fod yn hyfforddwr pêl-droed fel gyrfa.  Yn y pendraw, roedd hyn yn arwain at fynd i America yn 2017 sydd wedi bod yn brofiad ffantastig ac rydw i wrth fy modd i gynnig yr un cyfle i hyfforddwyr ifanc yng Ngholeg Y Drenewydd a’r gymuned leol.”

I gloi, dywedodd: “Roedd y diwrnod yn un hynod o lwyddiannus.  Roedd safon yr hyfforddwyr yn ffantastig a chynigiwyd swyddi i bedwar o’r ymgwisiwyr yn y digwyddiad.  Rydyn ni wrth ein bodd i barhau â’n partneriaeth gyda’r Coleg ac yn bwriadu gwneud hyn yn ddigwyddiad blynyddol.  Rhaid canmol Gareth a thîm y coleg am ei holl waith gyda’r myfyrwyr ym maes datblygu hyfforddi.”

Llongyfarchiadau i fyfyriwr Coleg Y Drenewydd Ethan Rutter a enwyd fel un o’r rheiny a dderbyniodd gynnig o swydd hyfforddi yn yr Efrog Newydd dros yr haf 2024, Pob lwc Ethan.