Gweithdy Dove, Wrth Galon Banwen

Adult Learning Community logo

Mae Dysgu Oedolion yn y Gymuned Powys Castell-nedd Port Talbot yn bartneriaeth sy’n darparu ystod eang o gyrsiau i oedolion ledled Canolbarth a De Cymru. Roeddem yn meddwl ei bod yn bryd i ni daflu goleuni ar ein partneriaid i arddangos y gwaith gwych sy’n cael ei ddarparu ar draws y rhanbarth.

Mae gweithdy Dove yn un o’r partneriaid hynny; gan ddarparu gwasanaethau i bobl Banwen a’r cymunedau cyfagos.

Wedi’i sefydlu ym 1984 yn ystod streic y glowyr i fynd i’r afael ag anghenion y gymuned leol, mae wedi esblygu i fod yn ganolbwynt cymunedol amhrisiadwy, sy’n cynnig cyfleusterau hyfforddi ac addysg amrywiol ar gyfer Banwen a’r ardaloedd lleol.

Mae’r gweithdy yn cynnal amrywiaeth o gyrsiau sy’n cwmpasu sbectrwm eang o bynciau gan gynnwys Iaith Arwyddion Prydain (BSL), ysgrifennu creadigol, troseddeg, a chyhoeddi. Dim ond ciplun yw hwn o’r dosbarthiadau sydd ar gael ar unrhyw adeg benodol, a gydag opsiynau newydd yn cael eu hychwanegu bob wythnos mae yna lu o ddewisiadau ar gyfer darpar ddysgwyr.

Yn ogystal â dosbarthiadau addysgol, mae’r gweithdy hefyd yn cynnig gwasanaethau cymorth hanfodol sy’n cwmpasu amrywiaeth eang o bynciau, gan gynnwys hyb llesiant a chyrsiau hunan-ddatblygiad, cymorth gyda phwyslais arbennig ar lesiant meddyliol ac emosiynol, cymorth cyflogaeth sy’n cynnwys cymorth gyda dyled, budd-daliadau, a chyllidebu.

Mae’r gweithdy’n cynnal digwyddiadau cymunedol yn rheolaidd fel ffeiriau crefftau, teithiau cerdded gaeafol, a gweithgareddau tymhorol, a threfnir y rhain drwy gydol y flwyddyn i feithrin ymgysylltiad cymunedol. Maent hefyd yn cynnig cyfleusterau gofal plant o ansawdd uchel, sydd wedi’u cofrestru gan Arolygiaeth Gofal Cymru, yn y feithrinfa ddydd ar y safle Dovecote.

Gan weithio mewn partneriaeth â rhanddeiliaid allweddol, sefydliadau cymunedol ac actifyddion cymunedol, mae Gweithdy Dove yn parhau i wella ein cymunedau ledled yr ardal gyfagos.

Bydd unrhyw un sy’n ymweld â Gweithdy Dove yn dweud wrthych yn frwd am yr effaith gadarnhaol sylweddol ar y gymuned leol y mae’r ganolfan yn ei darparu, gan ddarparu gwasanaethau hanfodol a chyfleoedd ar gyfer datblygiad personol ac addysgol.

Yn ddiweddar dyfarnwyd cyllid i’r gweithdy gan Gronfa Twf y Trydydd Sector (cangen 3ydd sector o gyllid UKSPF yn CNPT). Bydd y cyllid gwerthfawr hwn yn galluogi’r ganolfan i wasanaethu Banwen ymhellach drwy ddatblygu eu cegin fel caffi brecwast.

Bydd y maes hwn yn cael ei staffio gan wirfoddolwyr a fydd yn cael hyfforddiant pwrpasol sy’n cyflwyno byd arlwyo a lletygarwch mewn amgylchedd â chymorth sy’n symud ar eu cyflymder hwy.

I gael rhagor o wybodaeth am ein cyrsiau a’n partneriaethau ewch i’n gwefan newydd isod.

Hafan – Dysgu Oedolion yn y Gymuned Powys Castell-nedd Port Talbot