Myfyrwyr yn Dod Ynghyd yng Ngholeg Afan

Cabin Crew students group photo at the Less Stafford salon at Afan College.

Bu myfyrwyr Tystysgrif Lefel 2 NCFE Criw Caban o Gastell-nedd yn ymweld â salonau trin gwallt a therapi harddwch Afan am sesiwn diwedd tymor ar dechnegau cyflwyno sy’n berthnasol i’w cymhwyster. Sicrhaodd staff a myfyrwyr trin gwallt a therapi harddwch Afan fod y myfyrwyr Criw Caban yn cael profiad o driniaethau proffesiynol yn y bore a’r prynhawn mewn triniaethau wyneb, colur a steiliau gwallt, a oedd yn briodol i ofynion cwmnïau hedfan a sicrhaodd hyn eu bod wedyn yn gallu defnyddio’r technegau a ddysgwyd ar y diwrnod eu hunain.

Roedd adborth gwych gan y myfyrwyr Criw Caban yn adlewyrchu pa mor llwyddiannus oedd y diwrnod i bawb:

Roedd y daith gwallt a harddwch yn brofiad gwych ac fe wnes i ei mwynhau’n fawr. Roedd y driniaeth wyneb a gefais yn hamddenol iawn ac yn teimlo’n broffesiynol ac roedd yr awyrgylch yn yr ystafell yn dawel, roeddwn wrth fy modd. Wrth wneud fy ngholur, roedd yr athrawes o gymorth mawr wrth ddangos i ni beth i’w wneud a sut i ddefnyddio’r colur. Gwnaeth y ferch a wnaeth fy ngwallt waith anhygoel ac roedd yn gwneud yn siŵr fy mod yn hapus gyda sut roedd yn edrych. Ar y cyfan, cefais ddiwrnod gwych a byddwn wrth fy modd yn ei wneud eto – Grace.

Roedd yr ymweliad gwallt a harddwch yn brofiad da iawn, fe wnes i fwynhau cael y driniaeth wyneb roedd yn hamddenol iawn, dysgais lawer wrth wneud y colur, roedd y tiwtoriaid yn barod iawn i helpu, ac roedd y merched oedd yn gwneud ein gwallt yn neis, helpodd fi i ddysgu sut i wneud fy ngwallt. Ar y cyfan roedd yn ddiwrnod da iawn byddai’n braf ei wneud eto.  — Caitlyn

Mwynheais i ddoe yn fawr. Roedd yn teimlo’n hamddenol ac yn bleserus, roedd yn brofiad da iawn ac yn gwneud i mi deimlo’n gartrefol, roedd pawb yno yn hyfryd a chroesawgar gan gynnwys y staff a’r merched oedd yn gwneud ein gwallt a’n hwynebau. Dysgais lawer ddoe am sut i wneud fy ngholur a gwallt yn union fel y byddai criw caban yn ei wneud, ac ar y cyfan, roedd yn ddiwrnod hyfryd a byddwn yn gwneud y cyfan eto!  Isabel.