Myfyriwr Cerdd ar y ffordd i Conservatoire

Mae myfyriwr Safon Uwch Louis Edwards wedi ennill lle mewn Conservatoire o fri yn Llundain.  Ym mis Medi, bydd yn mynd i Conservatoire Cerdd a Dawns Trinity Laban i barhau â’i astudiaethau a dilyn ei freuddwydion cerdd.

Mae Louis yn ei ail flwyddyn yng Ngholeg Castell-nedd ac yn astudio cymwysterau Safon Uwch mewn Cerddoriaeth, Saesneg Iaith a Chymdeithaseg.  Mae wedi bod yn hoff iawn o Gerddoriaeth ers yn ifanc ac roedd am ddod i Goleg Castell-nedd am ei fod wedi clywed sut cymaint o adborth cadarnhaol am y cwrs cerdd yn y coleg.

Wrth i Louis ddechrau astudio Safon Uwch mewn Cerddoriaeth, roedd yn ffeindio trawsnewid o lefelTGAU yn anodd iawn ond roedd y cymorth a gafodd gan ei ddarlithwyr yn ei helpu i ymgyfarwyddo’n gyflym.  Mae e’n credu bod y darlithwyr wedi eu helpu i ddatblygu o safbwynt personol a cherddorol yn ystod ei amser yn y coleg.

Wrth ddewis ei gam nesaf ar ôl gorffen ei astudiaethau Safon Uwch, roedd Louis am ganolbwyntio ar gerddoriaeth. Trwy siarad â’i ddarlithydd, dysgodd fwy am Conservatoires a beth yr oeddent yn ei gynnig.

“Cyn i mi ddod i’r coleg, doeddwn i ddim yn gwybod gormod am Conservatoires. Roeddwn i’n gwybod ei bod yn bosibl mynd i goleg cerdd ond heb wybod sut.  A thrwy siarad â’m darlithydd a dysgu mwy, penderfynais wneud cais i Conservatoire.

Roeddwn i’n fwy o berfformiwr theatr gerddorol ac wrth i mi benderfynu fy mod i am fynd i conservatoire, sylweddolais y byddai mwy o bwyslais ar gerddoriaeth glasurol ac roedd yn rhaid i mi ymchwilio i’r ochr glasurol, rhwybeth fy mod i’n hoffi’n fawr iawn erbyn hyn.  Mae cerddoriaeth glasurol ac opera yn ffantastig.”

Roedd Louis yn ymwybodol bod llawer o bobl yn ymgeisio i Conservatoires bob blwyddyn ac mai dim ond llond dwrn ohonynt sy’n llwyddiannus.  Roedd ei ddarlithydd yn ei helpu llawer gyda’r cais, ac aeth y 2 ohonynt ati’n syth i’w gyflwyno cyn y dyddiad cau.  Roedd ei ddarlithydd hefyd yn ei gyfeirio at dîm UCAS y coleg i sicrhau ei fod yn cael yr holl gymorth a chyfarwyddyd angenrheidiol.

“Roedd hi wedi fy nghysylltu â nhw yn syth, a’r diwrnod wedyn, es i siarad â Petra (Uwch Swyddog: Addysg Uwch Profiad Myfyrwyr), a oedd wir yn fendigedig gan fy arwain trwy’r holl broses o ymgeisio i’r Conservatoire. Roedd hi’n hynod o gefnogol ac os oedd angen unrhyw beth arna i, roedd hi’n wych.  Gwnaethpwyd popeth lot yn haws a heb Petra dydw i ddim yn meddwl y byddai wedi bod yn bosib i fi lwyddo gyda’r broses ymgeisio.”

Ar ôl cwblhau’r cais, gwahoddwyd Louis i glyweliad yn ‘Trinity Laban Conservatoire of Music and Dance’ yn Llundain. Ar 27 Tachwedd 2023, cynnigiwyd lle i  Louis i astudio yn y Conservatoire o fis Medi 2024.

“Roedd y cymorth a’r cyfarwyddyd gan y coleg yn allweddol wrth wireddu fy mreuddwyd o fynd i Conservatoire yn Llundain a byddaf yn coleddu’r profiad hwn fel prawf bod unrhyw beth yn bosib, mae jest angen i chi gymryd naid a bydd y canlyniad yn eich synnu.”

Roedd Louis yn manteisio ar ddarpariaeth ‘Ehangu Mynediad’ y Coleg sy’n dod o dan y rhaglen genedlaethol ‘Ymestyn yn Ehangach a ariennir gan CCAUC (HEFCW). Mae’n anelu at gynyddu’r nifer o gyfranogwyr addysg uwch o grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol trwy godi uchelgeisiau addysgol a sgiliau a chreu cyfleoedd astudio blaengar a llwybrau dysgu i gyrraedd addysg uwch.

Os oes gennych ddiddordeb mewn cyrsiau Cerddoriaeth yng Ngrŵp Colegau NPTC, cliciwch ar y botwm isod:

Cerddoriaeth

Gallwch ddod o hyd i fwy o wybodaeth am ein tîm UCAS a’r broses ymgeisio UCAS trwy glicio ar y botwm isod neu trwy e-bostio: UCAS@nptcgroup.ac.uk

UCAS