Dyfarnu Cymrodoriaeth o fri i Ddarlithwyr Cerbydau Modur Grŵp Colegau NPTC

Lecturers and the new Hybrid Electric Rig At Newtown College

Mae Grŵp Colegau NPTC yn falch o gael eu cydnabod gan y Gymrodoriaeth Addysgu Technegol am eu gwaith caled yn gwella cyfleoedd addysgu a dysgu ym maes hyfforddiant Trydan a Hybrid.

Mae’r Darlithwyr Cerbydau Modur o Bowys, Daniel Pritchard a William Davies, wedi cael eu cyhoeddi fel enillwyr y Dyfarniad Cymrodoriaeth Addysgu Technegol bwysig 2004-25. Bydd y wobr a roddir ar y cyd gan y Sefydliad Addysg a Hyfforddiant (EFT) a’r Comisiwn Brenhinol ar gyfer Arddangos 1851 yn cael ei chyflwyno’n ffurfiol mewn digwyddiad a gynhelir yn y Gymdeithas Frenhinol yn Llundain ddydd Gwener 1 Mawrth.

Bydd y Gymrodoriaeth ar y cyd hon ar gyfer William Davies, darlithydd yng Ngholeg Bannau Brycheiniog a Daniel Pritchard, darlithydd yng Ngholeg y Drenewydd yn canolbwyntio ar hyfforddiant cynnal a chadw cerbydau trydanol gan ddefnyddio darpariaeth hybrid syncronaidd ac asyncronaidd, gan adeiladu ar y gwaith y maent eisoes yn ei wneud ar gerbydau trydan a hybrid.

Mae’r Ysgol Peirianneg yng Ngrŵp Colegau NPTC ar flaen y gad o ran datblygu a darparu hyfforddiant cyfoes, arloesol mewn cynnal a chadw cerbydau trydan/hybrid i ddarparwyr yn lleol, ledled y DU ac yn rhyngwladol.  Mae Daniel a William ill dau wedi bod yn allweddol i ddatblygiad a darpariaeth y cyrsiau hyn.

Mae Grŵp Colegau NPTC yn darparu hyfforddiant ar atgyweirio ac amnewid systemau cerbydau hybrid a thrydanol ar gyrsiau achrededig IMI lefel 2, 3 a 4. Mae’r Coleg wedi creu ardaloedd hyfforddi cerbydau trydan pwrpasol o fewn yr adrannau cerbydau modur, gan sicrhau cyfanswm o bedwar rig hyfforddi cerbydau hybrid a thrydan i gynorthwyo cyfleoedd addysgu a dysgu. Mae’r cyrsiau wedi’u hymestyn i raglenni ‘Hyfforddi’r Hyfforddwr’ dramor.

Roedd Daniel a William hefyd yn rownd derfynol Gwobrau Sefydliad y Diwydiant Moduro (IMI) yn Dathlu Rhagoriaeth Modurol am y Cyfraniad Eithriadol i’r Diwydiant Moduro.

Dywedodd Pennaeth yr Ysgol: Peirianneg, Amiee Lane: “Mae Daniel a William wedi dangos arweinyddiaeth eithriadol yn eu rolau, gan ysgogi mentrau sy’n gwella ansawdd addysg yn ein sefydliad yn gyson. Mae’r Gymrodoriaeth arfaethedig yn cyd-fynd yn ddi-dor â’n nodau sefydliadol, gan hyrwyddo cydweithredu, rhannu arferion gorau, ac integreiddio methodolegau addysgu arloesol. Mae ymroddiad, gweledigaeth ac arbenigedd Daniel a William yn eu gwneud yn ymgeiswyr delfrydol i arwain mentrau a fydd yn siapio dyfodol addysg dechnegol. Rwy’n hyderus y byddant nid yn unig yn rhagori yn y Gymrodoriaeth ond hefyd yn manteisio ar y cyfle hwn i godi safonau addysgu technegol ymhellach, nid yn unig o fewn ein sefydliad ond ar draws y sector.”

Bydd y Gymrodoriaeth yn sicrhau bod y dulliau a ddefnyddir mewn addysgu yn cyd-fynd â’r dirwedd ddigidol a ragwelir ar gyfer 2030. Bydd y dull blaengar hwn yn paratoi myfyrwyr ar gyfer y trawsnewidiadau digidol a ddisgwylir yn y degawd nesaf. Disgwylir i gymrodyr ddatblygu gweithgareddau trosglwyddo a chyfnewid gwybodaeth, gan rannu arfer effeithiol mewn cynadleddau cenedlaethol a rhanbarthol a thrwy rwydweithiau, gan hwyluso DPP a chyfrannu at arweinyddiaeth meddwl trwy gymuned ymarfer technegol sefydledig. Byddant hefyd yn cyfrannu at adroddiad terfynol i ymgysylltu ac ysgogi ymarferwyr addysg dechnegol yn eu meysydd pwnc arbenigol. Mae’r dau yn derbyn dyfarniad ariannol i gefnogi eu gweithgarwch a gwarantu amser rhyddhad a neilltuir mentor iddynt i’w cefnogi trwy gydol y rhaglen.

Dywedodd John Lavery, Ysgrifennydd y Comisiwn Brenhinol ar gyfer Arddangosfa 1851:

“Mae’r Comisiwn Brenhinol ar gyfer Arddangosfa 1851 yn llongyfarch yr holl Gymrodyr Addysgu Technegol newydd ac yn falch iawn o’u croesawu i gymuned 1851. Mae’r gwaith y byddant yn ei wneud o fewn yr amgylchedd Addysg Bellach yn hynod bwysig ac mae’r gwobrau’n cydnabod y safonau addysgu anhygoel o uchel a’r esiampl y maent yn mynnu, ac yn ei chyflawni, ohonynt eu hunain. Mae’r Comisiwn Brenhinol wrth ei fodd bod rhaglen Addysgu Technegol 1851 wedi bod mor llwyddiannus ac mae’n falch iawn o gydweithio â’r Sefydliad Addysg a Hyfforddiant i gyflwyno’r fenter hon sydd newydd ei hehangu”.

Dywedodd Dr Katerina Kolyva, Prif Weithredwr y Sefydliad Addysg a Hyfforddiant:

“Rydym yn llongyfarch y rhai sydd wedi derbyn Cymrodoriaethau Addysgu Technegol 2024–25. Mae’r gwobrau hyn yn cydnabod y goreuon mewn addysg dechnegol ac yn eu cefnogi i rannu ac ymestyn cyrhaeddiad eu hymarfer yn effeithiol. Edrychwn ymlaen at eu gweld yn dilyn yn ôl troed eu rhagflaenwyr, gan ddatblygu gallu addysgu technegol ledled y DU. Wrth wneud hynny, byddant yn helpu i feithrin y sgiliau sydd eu hangen i fynd i’r afael â’r newidiadau technegol, economaidd a chynaliadwyedd dwys y mae cymdeithas yn eu hwynebu.”