Dawnsio dros Gymru – Mae Coleg Castell-nedd yn Croesawu Clyweliadau Dawns Genedlaethol Ieuenctid Cymru

Dance group in the a dance studio sitting on the floor lostening to a lecturer

Mae Grŵp Colegau NPTC wedi hen ennill ei blwyf am gynnig addysg a chyfleoedd hyfforddi ar flaen y gad ym maes dawnsio gydag adran dawns Coleg Castell-nedd nawr yn croesawu clyweliadau Cenedlaethol i fyfyrwyr sydd eisiau ennill lle yn y cwmni er mwyn dawnsio gyda Dawns Genedlaethol Ieuenctid Cymru 2024!

Ar ôl gweithio gyda NYDW am fwy nag ugain mlynedd, roedd Coleg Castell-nedd wrth ei fodd unwaith eto i groesawu llysgenhadon dawns y cwmni, dan arweinyddiaeth cynhyrchydd y cwmni Jamie Jenkins, sydd wedi bod wrthi’n chwilio am ddanswyr dawnus ar draws Cymru gan obeithio meithrin cwmni a fydd yn cynrychioli potensial dawns ieuenctid Cymru‘r haf hwn!

Dywedodd Jamie;

“Mae bob amser yn braf ymweld â Choleg Castell-nedd; mae’r dawnswyr ifanc yn arddangos ymrwymiad, penderfyniad a dealltwriaeth dechnegol. Prawf enfawr o’u hymrwymiad i’w hastudiaethau.

Mae’n amlwg iawn bod yr adran ddawns yn hynod o gynhwysol a chefnogol.  Mae’r dawnswyr ifanc hyn yn gyffrous iawn ac yn cynrhychioli dyfodol dawns yng Nghymru.”

Yn dilyn camre myfyrwyr dawns llwyddiannus blaenorol Coleg Castell-nedd, mae cafarn eleni yn barod i gofleidio yn her y clyweliad gan ddangos eu potensial mewn technegau dawns wrth i’w galluoedd gael eu herio, wrth ddysgu repertoire dawns a gweithredu agweddau creadigol ar symud.

Dywedodd Hannah Edwards, myfyriwr dawns;

“Dwi wrth fy modd i gael cyfle arall i ddawnsio yn y coleg, yn dod â fy arddull umigryw fy hun i’r llawr dawnsio. Dwi wedi dysgu llawer mewn parodrwydd ar gyfer diwrnod y clyweliad a dwi’n barod disgleirio.”

Mae agwedd greadigol ar ddysgu wrth wraidd y profiadau dawnsio sydd ar gael yng Ngholeg Castell-nedd, profiadau sydd wedi’u cydlynu gan yr Arweinydd Pwnc ar gyfer Dawns, Craig Coombs, a ddywedodd;

“Mae Dawns yng Ngholeg Castell-nedd yn cynnig cyfle i ddawnswyr ifanc ddatblygu eu doniau ynghyd â llwybr gyrfaol hyddysg ym maes dawns y tu hwnt i’w hastudiaethau.  Mae ymrwymiad y darlithydd dawns yn golygu bod y myfyrwyr yn cael y gorau o bopeth, trwy ei hymbaratoi ar gyfer eu haseiniadau dawns, ond hefyd ar gyfer llefydd mewn cwmnïau dawns, prifysgolion ac ysgolion hyfforddiant galwedigaethol.

Mae ein perthynas barhaus gyda NYDW yn ein galluogi i annog myfyrwyr i ‘wireddu’ eu huchelgais o weithio fel dawnswyr yn y dyfodol.  Dwi’n dymuno pob lwc iddynt yn eu clyweliadau’r wythnos hon!”

Mae’n amlwg bod Dawns yng Ngholeg Castell-nedd yn arwain y ffordd ar gyfer y dawnswyr ifanc hyn. Mae rhai myfyrwyr eisoes wedi cyflawni clyweliadau i astudio dawns yn y brifysgol ac wedi derbyn cynigion gan Sefydliad y Celfyddydau Perfformio ym Mryste, Prifysgol Roehampton, Coleg y Perfformwyr ac Ysgol Dawns Gyfoes Llundain. Yn y gorffennol, mae myfyrwyr dawns y Coleg wedi bod yn llwyddiannus gan dderbyn llu o gynigion gan Trinity Laban, The Northern School of Contemporary Dance, London Studio Centre, Academi Urdang  a Dawns Genedlaethol Ieuenctid Cymru.

Mae’r dyfodol yn ddisglair ar gyfer dawnsio yng Nghymru, ac wrth i Adran Dawns Coleg Castell-nedd barhau i fuddsoddi popeth yn ei fyfyrwyr, mae’n amlwg bod dawns ieuenctid yn dal yn rhan o weledigaeth gyffrous ar gyfer dyfodol y Coleg.

Mae Grŵp Colegau NPTC yn cynnig TGAU mewn Dawns (rhan-amser), Safon Uwch mewn Dawns a BTEC Lefel 3 mewn Dawns yng Ngholeg Castell-nedd.

Am fwy o wybodaeth anfonwch e-bost: craig.coombs@nptcgroup.ac.uk neu ewch i’n gwefan.

Dawns yng Ngrŵp Colegau NPTC

Dewch o hyd i fwy o wybodaeth ynglŷn â Dawns Genedlaethol Ieuenctid Cymru