Cynhadledd Cynrychiolwyr Myfyrwyr Grŵp Colegau NPTC

Student Conference at Theatr Brycheiniog. View of stage from Upper Circle.

Cynhaliodd Grŵp Colegau NPTC eu Diwrnod Dathlu a Chynadledda Cynrychiolwyr Myfyrwyr blynyddol yn Theatr Brycheiniog, Aberhonddu yn ddiweddar. Daeth Cynrychiolwyr Myfyrwyr o bob Coleg i ddathlu’r gwaith y maent wedi’i wneud hyd yn hyn, a chlywed sgyrsiau gan wahanol sefydliadau, yn ogystal â Sesiwn Holi’r Uwch Dîm Rheoli.

Cafwyd sgwrs gyntaf y diwrnod gan Undeb y Myfyrwyr brwdfrydig. Yn y sgwrs hon bu iddynt egluro eu rolau a’u nodau, yn ogystal â phrosiectau a syniadau ar gyfer y dyfodol sydd ganddynt ar gyfer y coleg a’i fyfyrwyr.

Rhoddodd Stonewall Cymru, sefydliad dielw sy’n cefnogi’r Gymuned LHDTQ+, sgwrs ar LHDTQ+ a hunaniaethau. Roedd y sgwrs hon yn hysbysu myfyrwyr o’r iaith gywir i’w defnyddio wrth siarad â phobl eraill ac am bobl eraill, nid dim ond y rhai sy’n rhan o’r Gymuned LHDTQ+.

Yn dilyn Stonewall roedd Kooth, gwasanaeth iechyd meddwl ar-lein wedi’i anelu at bobl ifanc. Gwnaeth y sgwrs hon y myfyrwyr yn ymwybodol o’r cymorth y gall Kooth ei gynnig, a sut i ddefnyddio eu gwasanaethau.

Y sefydliad olaf i gyflwyno oedd Shelter Cymru, elusen cymorth i’r digartref sydd wedi’i lleoli yng Nghymru. Anogodd Shelter Cymru yr ystafell i ateb cwestiynau am yr hyn y mae cartref yn ei olygu i bawb, er mwyn dangos yr heriau a wynebir gan bobl ddigartref.

Yn olaf, croesawyd yr Uwch Dîm Rheoli i’r llwyfan i ateb cwestiynau gan y myfyrwyr. Mae’r digwyddiad hwn yn bwysig iawn ac mae’r myfyrwyr yn edrych ymlaen ato, gan ei fod yn rhoi cyfle iddynt roi gwybod i’r Uwch Dîm Rheoli beth maent yn meddwl sy’n gweithio a beth y gellid ei wella a throsglwyddo unrhyw adborth gan y myfyrwyr. Roedd y cwestiynau a ofynnwyd yn amrywio o fwydlenni’r coleg ac anoddefiad bwyd, i gyllid, presenoldeb, a rhaglenni prentisiaeth.

Dywedodd James Morris, Uwch Swyddog Ymgysylltiad, Llesiant a Chynhwysiant Myfyrwyr:

“Roedd cynhadledd y myfyrwyr eleni yn ddigwyddiad llwyddiannus arall gyda myfyrwyr yn mynychu o bob rhan o Grŵp Colegau NPTC. Roedd yn galonogol iawn gweld y rhyngweithio rhwng ein myfyrwyr ar draws pob safle wrth inni ddychwelyd i gyflwyno’r gynhadledd fel digwyddiad wyneb yn wyneb am y tro cyntaf ers pedair blynedd. Teimlwn ei bod yn bwysig bod myfyrwyr yn cael y cyfle i fod yn rhan o gynulliad a all helpu i’w hysbrydoli a’u hysgogi, sy’n edrych ar wahanol safbwyntiau, yn annog chwilfrydedd a syniadau ac yn rhoi llwyfan iddynt godi eu pryderon a’u safbwyntiau. Roedd bod yn dyst i’n cymuned o gynrychiolwyr myfyrwyr yn uno i rannu adborth am eu profiadau wir yn atgyfnerthu gwerth a phwysigrwydd ein hymrwymiad i lais y dysgwr o fewn grŵp y coleg.”