Cymuned Aberhonddu yn Rhannu Cariad Diwrnod Rhyngwladol y Menywod ar Draws Diwylliannau Gwahanol

Brecon Beacons ESOL students in front of their diaplsy board at an International Women's Day Event

Gwahoddodd Grŵp Hanes Menywod Aberhonddu a Brecon Story ddysgwyr ESOL (Saesneg i Siaradwyr Ieithoedd Eraill) i’w dathliad o Gwenllian Morgan, ar noson Diwrnod Rhyngwladol y Menywod.

Gwenllian Morgan (1852-1939) oedd Maer benywaidd cyntaf Cymru. Yn ystod y noson, cafwyd sgyrsiau gan drigolion lleol am Gwenllian Morgan a’i heffaith ar y bobl yn ei chymuned. Un o’r prif sgyrsiau oedd sut y bu i 901 o fenywod gydweithio i gomisiynu paentiad olew maint llawn ohoni ar ôl ei thymor cyntaf yn 1912. Mae hwn bellach i’w weld yn Neuadd y Dref Aberhonddu. Roedd y digwyddiad hefyd yn lansio prosiect diweddaraf Grŵp Hanes Menywod Aberhonddu, i godi arian ar gyfer gosod penddelw cyfoes yn ystafell llys hanesyddol Y Gaer, ochr yn ochr â’r penddelwau gwrywaidd presennol.

Cynhaliwyd y digwyddiad ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod, felly er bod y prif ffocws ar Gwenllian Morgan, y thema sylfaenol oedd dathlu menywod o bob cefndir. Mae gan Aberhonddu hanes o wahodd a chroesawu pobl i’r gymuned, gan greu diwylliant amrywiol iawn. Mae Aberhonddu wedi bod yn gartref i lawer, o Gwenllian Morgan, a gafodd ei geni a’i magu yng Nghymru, i’r Nepaliaid, y Gurkhas, yr Iwcraniaid a llawer mwy.

Gofynnwyd i’r tiwtor ESOL, Linda Kelly, draddodi araith ar effaith gwersi ESOL, lle bu’n trafod sut mae’r dosbarthiadau’n rhoi’r gallu i fyfyrwyr siarad ac ysgrifennu yn Saesneg, gan helpu i chwalu’r rhwystr iaith. Fodd bynnag, nid yn unig y cânt eu haddysgu sut i ddefnyddio’r Iaith Saesneg. Cânt eu haddysgu am ddiwylliant Prydain a rhoddir cyngor iddynt ar weithgareddau bob dydd a allai fod yn newydd iddynt, megis sut i ddarllen amserlen bws.

Wrth siarad am fod yn diwtor ESOL, dywedodd Linda Kelly:

“Mae’n rhoi boddhad mawr mewn cymaint o ffyrdd. Ni allai ethos ein coleg, ‘Mwy nag addysg yn unig’, fod yn fwy amlwg nag yn ein dosbarthiadau ESOL, yn enwedig pan fyddwn yn dod â’n holl fyfyrwyr ynghyd. Mae gennym ni gymysgedd cyflawn o oedrannau, cefndiroedd diwylliannol, cefndiroedd addysgol a chymaint o wahanol grefyddau, ond does dim ots am hynny, rydyn ni’n dod ymlaen! Sgwrsio, gwenu, chwerthin, rhannu seigiau cenedlaethol, a sgwrsio â’i gilydd yn Saesneg.  Fel myfyrwyr ac athrawon ESOL rydym yn gymuned lewyrchus.”