Llawer yn Digwydd yng Ngholeg y Drenewydd

Newtown College 10km runners after the race.

Daeth Staff a Myfyrwyr i gefnogi’r Ras 10k ar gyfer Parkinson’s UK Cymru.

Cymerodd dros 80 o fyfyrwyr a staff yng Ngholeg Y Drenewyd ran mewn her 10k i godi arian ac ymwybyddiaeth i Parkinson’s UK Cymru. Roedd yr her 10k yn un o gyfres o saith ras a gyflawnwyd gan Phil Jones, cyn-aelod o staff y Coleg dros gyfnod o saith niwrnod.

Daeth staff a myfyrwyr ar draws y Coleg, yn cynnwys yr Is-bennaeth: Corfforaethol, Gemma Charnock, i redeg, cerdded a rasio fesul sifft i gyflawni’r ras. Roedd cefnogaeth wrth law gan Uchel Siryf Powys, Reg Cawthorne, cynrychiolwyr Parkinson’s UK Cymru a staff a myfyrwyr y coleg.  Gwnaeth pencampwr rasys hir ac aelod o staff y Coleg Andy Davies yn gyntaf yn y ras gan aros wedyn i annos gweddill y rhedwyr yn eu blaen.

Mae tua 153,000 o bobl yn byw gyda Parkinson’s yn y DU.  Dyma’r cyflwr niwrolegol sy’n tyfu’n gyflymach nag unrhyw gyflwr niwrolegol arall yn y byd ac mae’n gallu effeithio ar bobl ifanc a hen.  Mae dros 40 o symptomau o Parkinson’s, a gall deimlo’n ormodol os nad oes gennych yr wybodaeth a’r gefnogaeth gywir. Mae’r elusen Parkinson’s UK yn helpu i  darparu gwybodaeth a chefnogaeth i bawb sy’n cael ei effeithio gan y cyflwr, ac maent hefyd yn cyllido ymchwil a thriniaethau sy’n torri tir newydd, ac yn ymgyrchu i godi ymwybyddiaeth.

Roedd Phil Jones yn annog pawb i ymuno yn ei her a oedd yn para am wythnos gyfan ac a oedd yn cynnwys ras ar hyd Camlas Trefaldwyn, ras o gwmpas Neuadd Gregynog ac Ysgol Mefiod,gydag Ysgol Gynradd Rhiw-Bechan, a ras 10k Y Trallwng ar y diwedd . Roedd yn ddiolchgar i bawb yn y Coleg am gymryd rhan ac am eu hymdrechion codi arian a dywedodd ar ei dudalen Just Giving ei fod wedi codi dros £7,000.

Os hoffech gefnogi ymdrechion Phil Jones i godi arian dros Parkinson’s UK, cliciwch isod neu gallwch roi arian i’r elusen trwy ei wefan: parkinsons.org.uk.

Just Giving

Ymweliad â Rhif 10 Stryd Downing.

Steve Cass visiting number 10 Downing Street

Ymwelodd Steve Cass Rheolwr Coleg Y Drenewydd â Stryd Downing ar ôl derbyn gwahoddiad i dderbyniad ar gyfer Hyrwyddwyr Addysg Gymunedol. Y Gwir Anrhydeddus Craig Williams AS, a oedd yn gyfrifol am yr enwebiad a chafodd y derbyniad ei groesawu gan Y Gwir Anrhydeddus Damian Hinds AS a Gweinidog dros Ysgolion. Cynhaliwyd y digwyddiad i ddathlu gwaith anhygoel gweithwyr proffesiynol addysg ar draws y DU ac roedd Steve Cass yn falch o gynrychioli’r Coleg yn y digwyddiad hwnnw.

Dywedodd Steve: ‘Roedd hyn yn gyfle ffantastig i dynnu sylw at waith helaeth y Coleg yn y gymuned ac hefyd i ddathlu rôl allweddol gweithwyr proffesiynol yn y gymdeithas.’

Ychwanegodd Steve: ‘Roedd y daith i Rhif 10 yn ffantastig, o swyddfa’r cabinet, yr ystafell Thatcher i ystafelloedd mawr y wladwriaeth – am ddiwrnod!’.