Gwobr Siswrn Aur i Hannah Pritchard

Hannah Pritchard and Lee Stafford with the Golden Scissors Award

Roedd yn bleser gan Grŵp Colegau NPTC groesawu Lee Stafford i’n Colegau Afan a’r Drenewydd i ysbrydoli myfyrwyr a gwobrwyo aelod o staff am ei holl waith caled.

Roedd Lee yn cynnal arddangosiad o ddwy o’i rysáit trin gwallt syfrdanol, y toriad mewn haenau a’r ‘twisted tong’, wrth rannu awgrymiadau a thechnegau ryseitiau safonol penodol a chefnogaeth sy’n helpu myfyrwyr i ddatblygu eu sgiliau ac yn sicrhau bod gan y coleg enw da ar draws yr ardal fel y lle i fynd am hyfforddiant trin gwallt.

Ar ddechrau’r gweithdy arddangos wrth gyflwyno gwobr arbennig i ddarlithydd trin gwallt Coleg Y Drenewydd o’r enw Hannah Pritchard sydd wedi cyflawni’r Diploma Meistr-Hyfforddwr a elwir hefyd yn ‘Siswrn Euraidd’ am gyflawni’r Deilliannau ‘Deg Mawr’ ym mhob rysáit ar Lefel 2 a Lefel 3.

Esboniodd Lee: “Mae Hannah wedi profi ei bod hi wedi gwneud llawer o waith caled i dderbyn y Siswrn Euraidd. Mae hi’n dangos trwy ymarfer ac wedyn trwy dynnu fideos ei bod hi’n gallu ailwneud y ryseitiau i’r un safon â fi. Dydy hi ddim yn hawdd ac fel arfer mae’n cymryd dwy flynedd.  Ac unwaith eich bod yn gallu gwneud pob rysáit i safon ‘Deg Mawr’,  mae hyn yn cyfateb i safon Michelin Star ac i ddangos eich bod wedi cyrraedd y safon honno, rydych chi wedyn yn derbyn ein Siswrn Euraidd a thystysgrif.

Dywedodd Hannah: “Rydw i wedi mwynhau’r broses o fireinio’r technegau ac rydw i’n hyderus fy mod i’n gallu cefnogi myfyrwyr i orau fy ngallu ac yn unol â’r safonau uchel y mae Lee wedi eu gosod. Roedd yn fore bendigedig ac roedd cyfle i’r myfyrwyr ofyn pob math o gwestiynau i Lee i helpu i ysbrydoli eu teithiau.”

Dywedodd Juliana Thomas Pennaeth yr Ysgol Trin Gwallt a Therapïau Cymhwysol: “Rydyn ni’n ddiolchgar iawn am y cymorth y mae Lee a’i dîm yn rhoi i’r Coleg,  Mae ganddo gymaint o brofiad amrywiol ac mae wastad yn gyfareddol i wrando arno.  Da iawn hefyd i Hannah, rydyn ni’n falch o’i chyflawniadau

Ychwanegodd Julianna air o ddiolch hefyd i’n myfyriwr Megan a oedd yn fodel trwy’r bore. Dysgodd staff a myfyrwyr am daith Lee i gychwyn ar ei yrfa a chafodd eu hysbrydoli gan eu straeon o gamu ymlaen, dyfeisio cynhyrchion a dathlu clientele. Wrth arddangos ei dechnegau steilio, rhoddodd gyngor a’r cyfle i staff a myfyrwyr ofyn cwestiynau.  Roedd Lee hefyd yn dosbarthu cynhyrchion Lee Stafford.

Os oes gennych ddidordeb mewn gyrfa mewn trin gwallt, ewch i’n gwefan i gael mwy o wybodaeth trwy glicio’r y ddolen isod.

Hairdressing and Applied Therapies