Mae Coleg Castell-nedd yn cyflwyno Dawns Ieuenctid One Vision 2024

Memebers of One Vision Dance Company posting with a clothes rail of costumes for thier new show.

Mae Coleg Castell-nedd yn cynnig addysg unigryw mewn dawns a chyfleoedd hyfforddi mewn TGAU Dawns, Safon U mewn Dawns a chyrsiau BTEC Lefel 3 ar gyfer dawnswyr ifanc. Mae’r tymor hwn yn dathlu’r bedwaredd flwyddyn ar ddeg o ‘Dawns Ieuenctid One Vision’, sy’n dod â syniadau myfyrwyr dawns at ei gilydd mewn noson o ddawnsio sy’n cynnwys gwaith amrywiol ar draws dawnsio cyfoes, bale, dawns fasnachol a jazz. Eleni, bydd y gwaith yn canolbwyntio ar y thema ‘CARIAD’ Ac mae’r dawnswyr wedi bod yn rhan annatod o’r broses o wneud penderfyniadau creadigol.

Dywedodd Hannah Edwards, a fydd yn perfformio gydag OVYD am yr ail flwyddyn;

“Rydyn ni i gyd wedi cael profiad gwerthfawr mewn coreograffi a pherfformiad, wrth ddatblygu sgiliau a thechnegau pwysig er mwyn dawnsio ar y llwyfan. Wrth i adran ddawns Castell-nedd barhau i fuddsoddi’n llwyr yn ei fyfyrwyr, mae dawns ieuenctid yn dal i fod yn rhan gyffrous o ddyfodol y Coleg a dwi llawn cyffro fy mod i’n rhan ohono!”

Cynhelir rihyrsals ar hyn o bryd i baratoi’r dawnswyr ar gyfer perfformiad yng Nghanolfan y Celfyddydau Nidum, ddydd Mercher 17 Ebrill am 7pm. Elise Addiscott, Daniella Powell, Callum Coombs a Cerys Lewis yw coregraffwyr y gwaith dan arweinyddiaeth cyfarwyddwr/cynhyrchydd y cwmni Craig Coombs a ddywedodd;

“Mae gan bob coreograffydd brofiad helaeth yn y diwydiant dawns ac maen nhw’n gweithio’n galed i baratoi’r dawnswyr ar gyfer y llwyfan. Mae’r thema gymhleth ‘CARIAD’ yn gwahodd y gwaith i fod yn eang ei gwmpas gan ymgysylltu â phawb ac rydyn ni wrth ein bodd i ddatgelu’r dehongliadau amrywiol trwy gyfrwng dawns. Mae’r myfyrwyr wedi gwneud dewisiadau creadigol mewn perthynas â gwisgoedd, dylunio’r set, marchnata a hysbysebu, sy’n rhwybeth newydd ar gyfer y prosiect.  Dwi wrth fy modd i weld sut bydd y broses gydweithrediadol hon yn arwain at waith dawns gwreiddiol er mwynhad ffrindiau a theuluoedd.”

Mae OVYD yn cwmpasu popeth sydd gan y Coleg i’w gynnig i ddawnswyr ifanc a gyda 25 mlynedd o hanes ym maes dawns, bydd y dawsnwyr presennol yn dilyn camre llwyddiannus llawer o ddawnsywr ifanc o’u blaenau, trwy barhau â’u haddysg mewn dawns ar lefel addysg uwch ym mis Medi mewn nifer o sefydliadau yn cynnwys;  London Studio Centre, Trinity Laban, London’s Contemporary Dance School (The Place), Bristol institute of Performing Arts, Performers College, The Urdang Academy, Prifysgol Roehampton ac Italia Conti. 

Mae adran ddawns Castell-nedd yn parhau i wahodd eu holl fyfyrwyr i fod yn flaengar, yn greadigol ac yn frwd am ddawnsio. Yn ôl Hannah Edwards;

“Dyma leoliad cyffrous sy’n darparu profiad sy’n adlewyrchu’r diwydiant i fi a fy holl gyd-weithwyr.  Mae pob tymor yn llawn cyfleoedd i ni fel dawnswyr ifanc a dwi’n argymhell y Coleg i bawb sydd eisiau cymryd dawns o ddifri”

Am fwy o wybodaeth am Ddawns Ieuenctid One Vision neu i brynu tocynnau ar gyfer y perfformiad sy’n dod yn fuan, anfonwch e-bost os gwelwch yn dda: craig.coombs@nptcgroup.ac.uk