Dilyn Llwybr Llwyddiant

Matthew Harvey as Vice Principal: Finance and Estates.

Mae Grŵp Colegau NPTC yn falch o gyhoeddi penodiad Matthew Harvey yn Is-Bennaeth: Cyllid ac Ystadau. Mae gan yr arbenigwr cyllid, sydd ag angerdd am redeg, hanes nodedig mewn rheolaeth ariannol ac ymrwymiad i ragoriaeth academaidd. Mae’n dod â chyfoeth o brofiad i’w rôl newydd.

Ar ôl gwasanaethu mewn amrywiol swyddi arwain o fewn y sector cyllid a diwydiant am dros ddau ddegawd, mae’n ymuno â Grŵp Colegau NPTC gyda dealltwriaeth ddofn o strategaethau ariannol sydd wedi’u teilwra i sefydliadau addysgol. Fe fydd ei benodiad newydd ar dir cyfarwydd gan ei fod ar hyn o bryd yn ei ail dymor fel aelod o fwrdd y gorfforaeth ac aelod o’r pwyllgor archwilio.

Mae Matthew yn Gymrawd Sefydliad y Cyfrifwyr Siartredig, ond mae ganddo hefyd sawl maes arbenigedd, ar ôl gweithio ar lefel bwrdd ac uwch mewn busnesau gan gynnwys corfforaethau mawr. Bydd yn gadael ei swydd bresennol fel Cyfarwyddwr Cyllid a Gweithrediadau yng Nghwmni Masnachu ac Arloesi Naissance yng Nghastell-nedd, yr ymunodd ag ef ym mis Ionawr 2023 i ddechrau yn ei rôl newydd ddechrau mis Mehefin. Bydd Matthew yn parhau i gefnogi Naissance mewn swyddogaeth anweithredol yn y dyfodol.  Mae ei rolau blaenorol yn cynnwys Rheolwr Gyfarwyddwr a Chyfarwyddwr Cyllid Grŵp yn Dr Organic Limited (Abertawe) rhwng 2015 a 2022. Roedd hefyd yn gyflogedig yn PwC lle dechreuodd ei yrfa fel hyfforddai graddedig. Symudodd i fyny’r rhengoedd yn gyflym i Uwch Gydymaith, Rheolwr Sicrwydd ac Uwch Reolwr Sicrwydd o 2003 i 2015.

Yn ogystal â chyllid, mae Matthew wedi bod yn gyfrifol am feysydd busnes eraill gan gynnwys rhagamcanu, cyllid grant, datblygu busnes, adnoddau dynol, gwerthu a marchnata, a fydd yn chwarae rhan ganolog wrth lywio’r Coleg tuag at sefydlogrwydd a thwf ariannol.

Dywedodd Mark Dacey, Prif Weithredwr Grŵp Colegau NPTC: “Rydym yn falch iawn o groesawu Matthew i’n tîm arwain. Fel aelod gwerthfawr o’n bwrdd corfforaeth a’n pwyllgor archwilio mae eisoes wedi chwarae rhan hanfodol wrth lywio’r Coleg. Mae ei arbenigedd, ei brofiad helaeth a’i ddull arloesol o reolaeth ariannol yn cyd-fynd yn berffaith â chenhadaeth a gweledigaeth ein sefydliad.

Astudiodd Matthew, sy’n byw ym Mhort Talbot gyda’i wraig, Susi, a’u dau o blant, ym Mhrifysgol Cymru, Abertawe a L’Ecole Superieur de Commerce, Brest, Ffrainc gan gymhwyso gyda gradd 2:1 (Meistr Ewropeaidd mewn Astudiaethau Busnes).  Yn ei amser hamdden mae’n frwd dros foduro ac yn gefnogwr tîm pêl-droed Abertawe a’r Gweilch.  Mae ganddo angerdd am redeg – mae’n rhedeg i Harriers Abertawe lle mae’n rheolwr tîm ar gyfer y tîm dynion hŷn, yn dal festiau Cymru am 5k a 10k ar lefel Meistr ac yn bencampwr Traws Gwlad Gorllewin Morgannwg.

Dywedodd Matthew ei fod yn edrych ymlaen at y cyfle a chyfrannu at lwyddiant y Coleg. “Rwyf wrth fy modd ac ar ôl bod yn rhan o sefydliad mor bwysig yn barod, gallaf bellach ymwneud mwy â phob agwedd ar y Coleg, ac edrychaf ymlaen at weithio gyda’r amrywiol adrannau a staff i sicrhau ei lwyddiant parhaus.”

Fel Is-bennaeth: Cyllid, bydd gan Matthew arweinyddiaeth strategol ac yn goruchwylio pob agwedd ar weithrediadau ariannol y Coleg, gan gynnwys datblygu cyllideb, adroddiadau ariannol, a rheoli buddsoddiadau.