Llwyddiant Prentisiaethau yn IP Group Y Trallwng

Student Nikki Wellsford with her Level 2 NVQ Diploma and Level 2 ESW Digital Literacy Qualifications

Mae tri chyflogai yn IP Group (Morland UK a Newmor Wallcovering) wedi cwblhau eu rhaglenni Prentisiaeth gyda Hyfforddiant Pathways Grŵp NPTC Y Drenewydd.

Dechreuodd Hannah Jones o Newmor ei phrentisiaeth Gweinyddiaeth Busnes Lefel 2 ym mis Medi 2023 a chwblhaodd ei Diploma NVQ a L2 Llythrennedd Digidol SHC ym mis Tachwedd 2023. Mae Hannah yn gweithio fel Gweinyddwr Gwasanaethau Cwsmeriaid yn delio ag ymholiadau ac archebion cwsmeriaid.  Mae Hannah yn rhan o dîm prysur iawn o drinwyr gwasanaethau cwsmeriaid. Penderfynodd Hannah ei bod eisiau newid gyrfa o weithio mewn lleoliad Gofal Plant a dechreuodd weithio yn Newmor ym mis Mehefin 2022.  Cydnabuwyd Hannah fel Cyflogai y Mis am ei chyfraniad eithriadol i’w hadran.

Dechreuodd Alex Jones o Interior Products Group ei brentisiaeth ym mis Hydref 2022 a chwblhaodd ei Ddiploma NVQ a L2 Llythrennedd Digidol SHC ym mis Ionawr 2024. Dechreuodd Alex weithio fel cynorthwyydd Cymorth TG ym mis Awst 2022. Mae Alex yn cynorthwyo gyda phroblemau technegol yr holl gyflogeion yn y Trallwng gan gwmpasu 4 safle gwahanol, gan archebu offer TG newydd a chyfnewid offer ar gyfer y Grŵp.

Dechreuodd Nikki Wellsford Van Vroehoven ym mis Tachwedd 2022 a chwblhaodd ei Diploma NVQ L2 a L2 Llythrennedd Digidol SHC ym mis Chwefror 2024. Dechreuodd Nikki ei gyrfa yn IP Group yn Newmor fel Cynorthwyydd Gwasanaethau Cwsmeriaid gyda Hannah ym mis Gorffennaf 2022. Cafodd ddau ddyrchafiad yn gyflym ac mae bellach yn gweithio i Morland UK fel Technegydd Ansawdd.

Mae’r cymwysterau wedi’u cynllunio i gyd-fynd â rolau’r cyflogeion yn y sefydliad ac maent yn cymhwyso’r gwaith ysgrifenedig i wahanol agweddau ar eu tasgau dydd i ddydd sy’n eu helpu i ddeall y theori sy’n sail i bob agwedd ar y busnes. Mae’r elfennau cymhwysedd yn cael eu hasesu gan eu Haseswr Prentisiaethau trwy arsylwi ar eu tasgau dyddiol sy’n ymwneud â’r unedau dewisol a ddewiswyd. Gall y prentisiaid gyflwyno tystiolaeth i ddangos eu cymhwysedd a’u dealltwriaeth a’i hategu gan eu rheolwyr a’u cydweithwyr yn ysgrifennu tystiolaeth fel tystion.

Mae pob un o’r 3 Phrentis bellach wedi symud ymlaen i Lefel 3 Gweinyddiaeth Busnes o dan y rhaglen Prentisiaethau a gefnogir gan Lywodraeth Cymru.

Mae gan IP Group dri chyflogai arall ar hyn o bryd yn ymgymryd â Gweinyddiaeth Busnes Lefel 2 o dan y Rhaglen Prentisiaethau.

Mae Rhaglenni Prentisiaethau yn garreg gamu ardderchog mewn cwmnïau fel IP Group sy’n cydnabod pwysigrwydd datblygu a chadw staff.