Cymerwch Eich Cam Nesaf Gyda Sesiynau Blasu AM DDIM

Infographic in Welsh and English displaying adults learning in various scenarios and the words FREE Taster Sessions for Adults and Take Your Next Steps. Cream background with purple text and NPTC Logo and social media icons.

Fis Mehefin eleni mae Grŵp Colegau NPTC yn cynnal ystod o sesiynau blasu dysgu oedolion AM DDIM ar draws Castell-nedd Port Talbot a Phowys.

O gyflwyniad i blymio a gosod brics i Sbaeneg ar gyfer gwyliau, i gelf a chrefft, garddio, Barista a hyd yn oed pobi – mae cwrs ar gyfer pob diddordeb.

Mae’r sesiynau hyn yn cynnig cyfle i oedolion 19 oed a throsodd archwilio diddordebau, dod o hyd i hobi, neu ddatblygu sgiliau; a’r cyfan wrth wneud ffrindiau newydd a chael hwyl!

Gyda staff arbenigol mewn amgylchedd cynhwysol – ni fu erioed yn haws dechrau dysgu sgiliau newydd a gwneud newid.

Y cyfan sydd angen i chi ei wneud yw dewis sesiwn o’r rhestr a chofrestru eich diddordeb trwy glicio ar y botwm isod.

https://www.engagecrm.co.uk/nptc-adult-learner-taster-sessions/

Bydd aelod o’n tîm wedyn yn cysylltu â chi i gadarnhau eich cofrestriad ac i roi gwybodaeth ymuno i chi.

Mae’r holl sesiynau blasu yn para am gyfnod byr ac maent yn hollol RHAD AC AM DDIM.

Dyddiad Cwrs Lleoliad
10/06/24 Cyflwyniad i Goginio Proffesiynol Coleg y Drefnewydd
10/06/24 Gwasanaethau Bwyty Coleg y Drefnewydd
10/06/24 Sbaeneg gwyliau Coleg Castell-nedd
10/06/24 Cyflwyniad i Beirianneg Coleg Castell-nedd
10/06/24 Cyflwyniad i Ffotograffiaeth Ddigidol Coleg Afan
11/06/24 Popty/Addurno cacennau Coleg Castell-nedd
11/06/24 Cyflwyniad i Ofal Plant Coleg Castell-nedd
11/06/24 Cyflwyniad i Gerbyd Modur Brecon Beacons College
11/06/24 Bisgedi a Barista Y Gaer, Coleg Bannau Brycheiniog
11/06/24 Bisgedi a Barista Y Gaer, Coleg Bannau Brycheiniog
11/06/24 Cyflwyniad i Drydanol Coleg Castell-nedd
11/06/24 Cyflwyniad i Arddwriaeth – Technegau Propogation Coleg Bannau Brycheiniog
11/06/24 Ffotograffiaeth i Ddechreuwyr Coleg y Drefnewydd
12/06/24 Cyflwyniad i Hyfforddiant Ffitrwydd – Gweithio mewn Campfa Academi Chwaraeon Llandarcy
12/06/24 Cyflwyniad i Gerbydau Modur  Eithriedig Coleg y Drefnewydd
12/06/24 Cyflwyniad i Sgiliau Crwst Coleg y Drefnewydd
12/06/24 Cyflwyniad i Arddwriaeth – Technegau Lluosogi Coleg Castell-nedd
13/06/24 Blaswr Criw Caban Coleg Castell-nedd
13/06/24 Cyflwyniad i Weldio Coleg Castell-nedd
13/06/24 Celf Ewinedd Sylfaenol Coleg Afan
13/06/24 Cyflwyniad i Goginio Proffesiynol Coleg Castell-nedd
13/06/24 Cyflwyniad i Decstilau Coleg y Drefnewydd
14/06/24 Cyflwyniad i Fecws – Sgiliau Addurno Cacen Coleg y Drefnewydd
17/06/24 Dyfeisio Drama a Theatr Gorfforol Coleg y Drefnewydd
17/06/24 Codio i Ddechreuwyr Coleg Castell-nedd
18/06/24 Cynhyrchu Cyfryngau Creadigol i Ddechreuwyr Coleg y Drefnewydd
18/06/24 Cyflwyniad i Patrwm Arwyneb Dylunio Tecstilau Digidol gan ddefnyddio ProCreate Coleg y Drefnewydd
19/06/24 Cyflwyniad i Blymio Coleg Castell-nedd
20/06/24 Darlun Arsylwadol i Ddechreuwyr Coleg Afan
20/06/24 Cyflwyniad i HND Cynhyrchu Amaethyddiaeth Coleg y Drefnewydd

Am ragor o wybodaeth ewch i https://www.nptcgroup.ac.uk/adult-learning-community/adult-learning-taster-sessions/ neu ffoniwch 0330 818 8100