Llongyfarchiadau i enillydd Gwobr Genedlaethol Sophie Dey sy’n “barod i herio’r byd” a gwireddu ei breuddwyd o ddod yn nyrs, ar ôl profi plentyndod heriol iawn.
Mae Sophie wedi cael ei chydnabod gyda Gwobr Dysgwr Oedolyn Ifanc y bydd yn ei derbyn yn seremoni Gwobrwyo Dysgu Oedolion Inspire! 2024 sy’n cael ei chynnal yng Ngwesty’r Gyfnewidfa Lo, Caerdydd ar 10 Medi. Mae hi’n un o ddwsin o enillwyr gwobrau.
Cafodd Sophie ei maethu yn dair oed, cafodd ei mabwysiadu ddwy flynedd yn ddiweddarach a chafodd ei haddysgu gartref, heb arholiadau ffurfiol, o 10 oed ymlaen gan ei rhieni mabwysiadol.
“Er fy mod yn gallu dysgu gartref, roedd rhwystrau i’m datblygiad cymdeithasol ac emosiynol a oedd yn fy ngadael yn gymdeithasol bryderus ac yn ddihyder iawn,” esboniodd Sophie, 19, sy’n byw ger Llandrindod.
Yn dilyn ymwneud gan y gwasanaethau cymdeithasol, ymrestrodd Sophie gyda Grwpiau Colegau NPTC ym mis Ionawr 2023, a ddisgrifiwyd ganddi fel “dechrau fy siwrnai addysgol gyffrous”.
Gyda’r cyhoeddiad y byddai’n enillydd gwobr, ymatebodd Sophie: “Rwy’n llawn sioc ond wrth fy modd i ennill y wobr genedlaethol hon. Diolch i fy nhiwtoriaid ym Mannau Brycheiniog a’r Drenewydd sydd wedi bod mor gefnogol ar ôl i’m haddysg gael ei hoedi am gymaint o flynyddoedd.”
Yn uchafbwynt Wythnos Addysg Oedolion yng Nghymru rhwng 9-15 Medi, mae’r Gwobrau Ysbrydoli! yn cael eu cydlynu gan y Sefydliad Dysgu a Gwaith gyda chefnogaeth gan Lywodraeth Cymru ac maent yn cydnabod y rhai sydd wedi dangos ymrwymiad i beidio byth â rhoi’r gorau i ddysgu.
Ma pob enillydd Ysbrydoli! yn dangos sut y gall dysgu gynnig ail gyfle, helpu i greu cyfleoedd gyrfa newydd, magu hyder a helpu cymunedau i ddod yn fywiog a llwyddiannus.
“Mae bywyd wedi newid er gwell ac rydw i nawr yn barod i herio’r byd!” dywedodd.
Mae Sophie wedi cwblhau cyfres o gymwysterau Mathemateg a Saesneg, gan gynnwys TGAU, a chwrs Iechyd, Cymdeithasol a Gofal Plant Cyfunol Lefel 2.
Mae hi bellach wedi symud ymlaen i’r cymhwyster Iechyd a Gofal Cymdeithasol Lefel 3, lle bydd yn cael profiad gwerthfawr ochr yn ochr â’i hastudiaethau gyda’r nod o wneud Prentisiaeth mewn Nyrsio gan mai ei huchelgais yw bod naill ai’n nyrs iechyd meddwl neu’n nyrs plant.
“Pe bawn i’n rhoi cyngor i unrhyw berson ifanc arall sydd wedi profi trawma yn eu bywydau, byddwn i’n dweud oherwydd eich bod chi wedi cael dechrau anodd, nid yw hynny’n eich diffinio chi fel person,” ychwanegodd Sophie.
“Byddwch yn ddigon hyderus i ddilyn eich hobïau, eich credoau a’ch angerdd er mwyn dod y fersiwn orau ohonoch chi’ch hun a phrofi eich bod yn gallu ei wneud, eich bod yn llwyddiannus a nawr mai’r byd yn llawn cyfleoedd i chi.”
Dywedodd Claire Bumford, darlithydd Sophie: “Mewn dros 25 mlynedd o ddysgu, dydw i ddim yn meddwl fy mod i erioed wedi dod ar draws merch ifanc mor ysbrydoledig â Sophie. Mae hi eisiau bod yn nyrs oherwydd, yn ei geiriau ei hun, ‘byddai’n braf helpu pobl eraill’. Mae’r frawddeg gynnil honno’n crynhoi Sophie.
“Mae hi’n astudio yn y coleg i wireddu ei breuddwyd, gobeithio, er iddi gael sawl achos o gynnwrf mawr yn ei bywyd. Does gen i ddim amheuaeth y bydd Sophie yn llwyddo ac yn ennill y cymwysterau sydd eu hangen arni i gyflawni ei breuddwyd.”
Ar gyfer oedolion yng Nghymru sy’n awyddus i ddechrau eu taith ddysgu, bydd cyrsiau blasu personol a sesiynau ar-lein yn rhedeg trwy gydol mis Medi ac yn ystod Wythnos Addysg Oedolion. Bydd cyngor a gwybodaeth ar gael yn lleol i ysbrydoli pobl i ddechrau dysgu fel ffordd o gynyddu eu cyflogadwyedd, adeiladu sgiliau bywyd a gwella ansawdd eu bywyd.
Dywedodd Lynne Neagle, Ysgrifennydd Cabinet Llywodraeth Cymru dros Addysg: “Mae ymdrech, dawn a phenderfyniad pawb sydd wedi cyrraedd rownd derfynol cystadleuaeth Gwobrau Dysgu Oedolion Ysbrydoli! eleni yn wirioneddol ysbrydoledig.
“Rwy’n benderfynol y dylai Cymru fod yn wlad lle mae gan bawb y cyfle i ddychwelyd i ddysgu ac adnewyddu eu gyrfa ar ba bynnag gyfnod o fywyd y maent ynddo. Mae Wythnos Addysg Oedolion yn gyfle gwych i ddarganfod eich brwdfrydedd dros ddysgu neu loywi eich sgiliau presennol. Byddwn yn annog unrhyw un sy’n chwilio am gymorth neu newid cyfeiriad i edrych ar y cymorth sydd ar gael gan Cymru’n Gweithio.
“Mae dysgu fel oedolyn nid yn unig yn ffordd wych o wella cyflogadwyedd ond mae hefyd yn gyfle gwych i gwrdd â phobl newydd, gwneud ffrindiau newydd, yn ogystal â hybu hunan-barch a hyder.”
Dywedodd Joshua Miles, Cyfarwyddwr y Sefydliad Dysgu a Gwaith: “Hoffwn longyfarch holl enwebeion ac enillwyr Gwobrau Addysg Oedolion Ysbrydoli! 2024 ac i ddiolch iddynt am rannu eu straeon ysbrydoledig gyda ni.
“Maen nhw wedi goresgyn heriau sylweddol, fel materion iechyd, diweithdra, hyder isel, neu gyfrifoldebau gofalu, ac wedi trawsnewid eu bywydau trwy ddysgu. Wrth wneud hynny, maent hefyd wedi ysbrydoli eraill i ddilyn yn ôl eu traed ac wedi gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i gymunedau ledled Cymru.
“Mae dysgu yn daith gydol oes a all gyfoethogi ein bywydau mewn sawl ffordd. Nawr yn fwy nag erioed, mae’n bwysig ein bod yn cefnogi ac yn dathlu oedolion yng Nghymru sy’n dychwelyd i ddysgu yn ddiweddarach mewn bywyd yn y gobaith o ddyfodol mwy disglair.”
I gael gwybod beth sy’n digwydd yn ystod Wythnos Addysg Oedolion ac i gael cyngor personol ar eich opsiynau dysgu eich hun a’r cymorth sydd ar gael, cysylltwch â Cymru’n Gweithio ar 0800 028 4844 neu chwiliwch www.gweithiocymru.llyw.cymru.