Yn sgil llwyddiant rhagorol ei blwyddyn beilot, mae’r rhaglen Cyflogwyr Preswyl ar fin dychwelyd yn 2025 gyda dwywaith y nifer o gyfranogwyr. Mae’r fenter flaengar hon, sef partneriaeth rhwng Grŵp Colegau NPTC a Thai Tarian, wedi tyfu o 12 o fyfyrwyr yn ei flwyddyn gyntaf i 27 myfyriwr eleni – prawf o’i heffaith gadarnhaol ar gyflogadwyedd a rhagolygon gyrfaoedd.
Ar ôl cael ei lansio yn 2023, mae’r rhaglen wedi bod yn allweddol wrth roi sgiliau hanfodol a phrofiad o’r gweithle i fyfyrwyr. Wrth adeiladu ar lwyddiant carfan aml-grefft Lefel 1 y llynedd, mae’r fenter wedi cynnig manteision ymarferol, yn cynnwys gweithdai ysgrifennu CVs, paratoi ar gyfer cyfweliadau, ac ymweliadau ymarferol I safleoedd, gan roi profiad gwerthfawr dros ben i arferion diwydiannau go iawn. Mae’r canlyniadau yn siarad drostynt eu hunain, gyda nifer o gyfranogwyr yn llwyddo i gael cyfleoedd gwaith – ac mae dau ohonynt yn rhan o Dai Tarian’s Copper Foundation, rhaglen sy’n cynnig gwaith cyflogedig i unigolion heb lawer o brofiad.
Mae’r rhaglen 2025 yn dod â hyd yn oed rhagor o gyfleoedd trwy gynnig llefydd i ddwywaith yn fwy o fyfyrwyr ac yn parhau i ddarparu mewnwelediadau a phrofiadau gwerthfawr. Mae’n cynnwys ymweliadau â safleoedd, cyfleoedd rhwydweithio â chontractwyr lleol ac arbenigwyr y diwydiant a chyflwyniadau a ddyluniwyd i ysbrydoli a pharatoi myfyrwyr ar gyfer gyrfaoedd llwyddiannus. Mae’r ehangiad hwn yn adlewyrchu’r galw cynyddol ar gyfer mentrau sy’n pontio rhwng addysg a chyflogaeth ar yr un pryd â delio â diffyg sgiliau mewn sectorau allweddol.
Dangosodd Christine Rogers, Rheolwr AD Tai Tarian, ei brwdfrydedd ar gyfer ehangiad y rhaglen:
“Trwy adeiladu ar lwyddiant rhaglen beilot y llynedd, rydyn ni wrth ein bodd i ddyblu’r nifer o fyfyrwyr yn 2025. Mae ein partneriaeth gyda Grŵp Colegau NPTC wedi bod yn hynod o effeithiol wrth helpu pobl ifanc i gyrraedd dealltwriaeth fwy eglur o’r cyfleoedd sydd ar gael yn y sectorau tai ac adeiladwaith. Mae wir yn llwyddiant go iawn fod dau fyfyriwr o garfan y llynedd wedi dod o hyd i swyddi gennym ac edrychwn ymlaen at weld hyd yn oed yn fwy o fyfyrwyr yn cychwyn ar eu llwybr gyrfaol eleni.”
Ychwanegodd Cara Mead, Rheolwr Menter a Chyflogadwyedd Grŵp Colegau NPTC:
“Mae effaith y rhaglen hon ar ein myfyrwyr wedi bod yn enfawr. Mae wedi rhoi cipolwg gwerthfawr ar y byd gwaith, yn arbennig ym maes adeiladwaith a thai, dau sector lle y gwelir galw mawr yn lleol. Wrth ehangu’r rhaglen, rydyn ni’n darparu’r cyfleoedd i adeiladu’r sgiliau a’r cysylltiadau sy’n angenrheidiol awrth sicrhau gyrfa llyddiannus ar gyfer hyd yn oed yn fwy o fyfyrwyr. Rydyn ni’n falch i barhau i weithio gyda Thai Tarian i wneud gwahaniaeth i fywydau pobl ifanc yn ein cymuned.”
Am fwy o wybodaeth am y rhaglen Cyflogwyr Preswyl neu fentrau ehangach Tai Tarian, cysylltwch â:
Grŵp Colegau NPTC – Cara.mead@nptcgroup.ac.uk
Tai Tarian – Christine.Rogers@taitarian.co.uk