O Ofn i Ryddid: Taith Jagmeet i Fywyd Newydd Trwy Ddysgu

Jagmeet Kaur and her family

Mae Gwobrau Dysgu Oedolion Ysbrydoli! yn dathlu pŵer addysg i drawsnewid bywydau, ac mae’r Wobr Newid Bywyd yn cydnabod unigolion sydd wedi goresgyn rhwystrau sylweddol ac wedi defnyddio dysgu i greu dyfodol newydd. Eleni, un o’r enwebeion nodedig yw Jagmeet Kaur.

Pan gyrhaeddodd Jagmeet Castell-nedd gyda’i theulu, nid yn unig trawma erledigaeth yn Afghanistan a gariodd gyda hi, ond hefyd benderfyniad cryf i ailadeiladu ei bywyd trwy addysg.

Yn fam i ddau o blant, gwrthodwyd yr hawl i ddysgu i Jagmeet fel menyw yn Afghanistan. Dioddefodd hi a’i theulu flynyddoedd o ofn a thrasiedi, gan gynnwys herwgipio a cholli ei merch ifanc wrth law’r Taliban. Yn y pen draw, gwnaeth Jagmeet a’i gŵr y penderfyniad dewr i ffoi gyda’u meibion, gan ddod o hyd i ddiogelwch yn Llundain yn gyntaf cyn ymgartrefu yn Ne Cymru.

Yn benderfynol o fanteisio ar y cyfleoedd a wrthodwyd iddi, cofrestrodd Jagmeet ar gwrs Saesneg i Siaradwyr Ieithoedd Eraill (ESOL) yng Ngrŵp Colegau NPTC. Gan ddechrau ar Lefel Mynediad 2, dangosodd ei hymrwymiad yn gyflym, gan symud ymlaen gyda chyflymder a hyder rhyfeddol. Er gwaethaf y rhwystrau yr oedd wedi’u hwynebu, cofleidiodd ddysgu gydag egni, parch, a synnwyr clir o bwrpas.

Dywedodd Jagmeet:

“Rwyf bellach yn gallu siarad amdanaf fy hun, fy nheulu, fy ngobaith a’m barn yn Saesneg, heb ofn.”

Mae ei thiwtor, Sophie Picton, yn ei disgrifio fel “unigolyn nodedig, mae stori Jagmeet yn enghraifft o gryfder a gwydnwch anhygoel yr ysbryd dynol. Er gwaethaf wynebu ffurfiau eithafol o erledigaeth am ei rhyw a’i ffydd yn Afghanistan, mae hi wedi dewis cofleidio dysgu er mwyn adeiladu bywyd gwell iddi hi a’i theulu yng Nghymru, ei gwlad fabwysiedig. Mae hi’n esiampl i ni i gyd.”

Heddiw, mae Jagmeet yn gallu mynegi ei hun yn Saesneg, gan rannu ei phrofiadau, ei gobeithion a’i huchelgeisiau heb ofn. Nid yn unig y mae ei thaith ddysgu wedi newid ei bywyd ei hun ond mae wedi ysbrydoli ei theulu a’i chyd-ddisgyblion.

Mae ei dewrder, ei gwydnwch a’i hymrwymiad i addysg yn gwneud Jagmeet yn enwebai gwirioneddol haeddiannol ar gyfer y Wobr Newid Bywyd yng Ngwobrau Dysgu Oedolion Ysbrydoli!

Os oes gennych ddiddordeb mewn dysgu mwy am ein cyrsiau ESOL, cliciwch ar y ddolen isod.

ESOL