Mae myfyriwr BSc Freya Roche yn derbyn Cynigion TBAR gan Ddwy Brifysgol

Student Freya Roche

Rydym wrth ein bodd i gyhoeddi bod Freya Roche, un o’n myfyrwyr rhagorol mewn Astudiaethau Plentyndod BSc, wedi derbyn cynigion gan Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant a Phrifysgol Caerdydd i astudio ar gyfer ei chymhwyster TBAR Cynradd.

Mae taith Freya yn enghraifft ffantastig o ddilyniant, ymrwymiad a phenderfyniad. Ar ôl dechrau ei llwybr academaidd ar y cwrs Astudiaethau Iechyd Lefel 3 yng Ngrŵp Colegau NPTC, mae wedi gweithio’n hynod o galed i gyrraedd y garreg filltir hon. Mae ei llwyddiant yn adlewyrchu cryfder ein rhaglenni wrth gefnogi dysgwyr i gyflawni eu huchelgeisiau a dilyn gyrfaoedd sy’n rhoi boddhad mewn addysg.

Roedd Rebecca James, darlithydd Freya wrth ei bodd gyda’r newyddion:

“Mae Freya wedi bod yn fyfyriwr rhagorol sydd wedi dangos twf anhygoel trwy gydol ei amser ar y rhaglen. O gefndir Astudiaethau Iechyd, mae wedi bod yn brofiad ysbrydoledig i wylio hi’n darganfod awydd go iawn i gefnogi plant ag anghenion ychwanegol. Ers dechrau ei gradd, mae hi wedi mynd â’r ymrwymiad hwn ymhellach wrth ddod o hyd i rôl o fewn i Uned Anawsterau Dysgu Difrifol, lle y mae hi eisoes yn gwneud gwahaniaeth. Mae Freya wir yn deall pwysigrwydd allweddol llesiant emosiynol wrth helpu plant i ymgysylltu’n llwyr â’u haddysg ac i oresgyn heriau. Bydd ei hempathi, ei hymrwymiad a’i phroffesiynoldeb yn golygu ei bod hi o fudd mawr i unrhyw ysgol sy’n ddigon ffodus i’w chael hi ar ei thîm.”

Mae Freya wrth ei bodd gyda’r cynigion ac rydyn ni’n hynod o falch o’i chyflawniadau. Rydyn ni’n dymuno bob llwyddiant wrth iddi ddechrau ar y bennod gyffrous hon o’i thaith i fod yn athrawes ysgol gynradd ysbrydoledig.

Roedd hi’n gyflym i ganmol ei darlithwyr am eu cefnogaeth trwy gydol eu hastudiaethau.  Dywedodd:

“Maen nhw wedi bod yn hynod o gefnogol trwy gydol y radd, maen nhw wastad yn cymryd yr amser i gysylltu â fi a sicrhau fy mod i’n deall y deunydd.  Mae eu hanogaeth a’u parodrwydd i helpu wedi magu fy hyder a gwneud i fi deimlo eu bod nhw wir yn fy nghefnogi wrth astudio – diolch!”

Os oes gennych ddiddordeb mewn astudio cwrs mewn Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant ar lefel gradd yng Ngrŵp Colegau NPTC, gallwch bori ein holl raglenni amrywiol a gweld sut i ymgeisio:

Cyrsiau Addysg Uwch Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant