Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant

Gofal a Lles

Mae pandemig COVID-19 wedi ei gwneud yn glir bod y sector gofal a lles yn rhan bwysig a hanfodol o iechyd ein cymunedau a bod nifer cynyddol o gyfleoedd gwaith yn y sector hwn. Os ydych chi eisoes yn gweithio mewn, neu’n meddu ar ddyheadau i weithio mewn rôl sy’n gysylltiedig â Gofal a Lles, yna gallai un o’n cyrsiau fod yn iawn i chi. Mae darlithwyr ar y cyrsiau hyn yn arbenigwyr yn y diwydiant yn ogystal â darlithwyr a’u nod yw cefnogi a gofalu am fyfyrwyr i sicrhau eu bod yn llwyddo yn eu dewis faes. Ewch i dudalennau’r cwrs i ddod o hyd i raglen sy’n iawn i chi.

Astudiaethau Plentyndod

Mae galw cynyddol am weithwyr gofal plant i ddarparu ar gyfer poblogaeth y DU ac o ganlyniad, mae nifer cynyddol o gyfleoedd gwaith ar gael yn y sector hwn.

Mae ein darlithwyr i gyd yn arbenigwyr yn eu maes ac maent yno i’ch cefnogi wrth drosglwyddo eu gwybodaeth a’u profiad o’r diwydiant.

Gall cyfleoedd gwaith i raddedigion gynnwys addysgwyr blynyddoedd cynnar, gweithwyr meithrin yn y sectorau cyhoeddus ac annibynnol, gweithwyr cymdeithasol a phobl sy’n gweithio yn y sectorau cyfiawnder ieuenctid a gorfodaeth cyfraith.

Clywch Gan Ein Myfyrwyr

Cyrsiau
Astudiaethau Plentyndod – Gradd Atodol BSc (Anrh) (Amser -Llawn) - Addysg Uwch a Graddau
Astudiaethau Plentyndod – Gradd Sylfaen (Amser-Llawn) - Addysg Uwch a Graddau
Camddefnyddio Sylweddau – Tystysgrif Addysg Uwch (Amser Llawn) - Addysg Uwch a Graddau
Gofal a Lles – BSc (Anrh) (Gradd Atodol) (Amser-Llawn) - Addysg Uwch a Graddau
Lles ac Iechyd yn y Gymuned- Diploma mewn Addysg Uwch (Amser-Llawn) - Addysg Uwch a Graddau
Lles ac Iechyd yn y Gymuned- Tystysgrif mewn Addysg Uwch (Amser-Llawn) - Addysg Uwch a Graddau
Ymarferion Gofal – Diploma mewn Addysg Uwch (Amser Llawn) - Addysg Uwch a Graddau
Ymarferion Gofal – Tystysgrif mewn Addysg Uwch (Amser Llawn) - Addysg Uwch a Graddau