Cyrsiau rhan-amser newydd yn dechrau ym mis Ionawr 2026!
Mae mis Ionawr yn fwy na dechrau’r flwyddyn newydd yn unig – mae’n gyfle i ailddyfeisio eich hun, dilyn eich angerdd a chymryd camau cadarn i fynd â’ch dyfodol ar lwybr carlam. Mae cyrsiau newydd rhan-amser y Coleg yn berffaith ar gyfer rhoi eich addysg yn ôl ar y trywydd iawn, uwchsgilio ar gyfer gwaith neu roi cynnig ar rywbeth newydd.
Mae’r ystod eang o gyrsiau wedi’u dylunio i danio chwilfrydedd, magu hyder ac agor drysau i yrfaoedd neu hobïau. P’un a ydych am roi hwb i’ch gyrfa, newid cyfeiriad, neu ddarganfod rhywbeth newydd, mae gennym opsiynau i fodloni pob nod. Gyda dewisiadau astudio hygyrch, byddwch yn derbyn y cymorth wedi’i deilwra’n arbennig sydd ei angen arnoch i lwyddo.
Uchafbwyntiau cynigion mis Ionawr
Ieithoedd a Diwylliant Dechreuwch eich blwyddyn trwy ehangu eich gorwelion gyda Ffrangeg i Ddechreuwyr neu Gymraeg i Ddechreuwyr. Mae’r ddau gwrs yn cynnig cyfle i ddysgu sgiliau cyfathrebu ymarferol wrth ymdrochi mewn traddodiadau diwylliannol coeth. Ar gyfer y rheiny sydd wrth eu bodd gyda straeon am y duwiau, arwyr a gwareiddiadau hynafol, beth am roi cynnig ar y cwrs Mytholeg.
Llwybrau Academaidd Os mai 2026 yw’r flwyddyn yr ydych yn anelu at gyflawni cymwysterau hanfodol; mae ein cyrsiau TGAU mewn Saesneg a Mathemateg yn darparu cerrig camu at lwyddiant. Mae’r opsiynau rhan-amser hyn yn berffaith ar gyfer oedolion sy’n dychwelyd i addysg neu ddysgwyr sydd eisiau cryfhau eu proffil academaidd.
Amaethyddiaeth a Garddwriaeth Ar gyfer y rheiny sy’n hoff o’r tir, mae’r Coleg yn cynnig Cyflwyniad i Loia a Thechnegau Ŵyna – yn ddelfrydol ar gyfer unrhyw un sydd â diddordeb mewn magu anifeiliaid. Bydd y cyrsiau Tystysgrif mewn Garddwriaeth Ymarferol a’r Diploma mewn Garddwriaeth Ymarferol yn eich helpu i ddysgu sgiliau mewn garddio, gofalu am blanhigion ac arferion tyfu’n gynaliadwy.
Cymuned, Gofal a Chreadigrwydd Mae cefnogi eraill wrth wraidd llawer o’n cyrsiau mis Ionawr. Mae Trawsnewid i Waith Chwarae yn paratoi dysgwyr ar gyfer rolau gwerth chweil mewn lleoliadau gofal plant a chwarae. Mae Cwnsela yn cyflwyno hanfodion sgiliau gwrando ac arwain, tra bod Ysgrifennu Creadigol yn darparu gollyngfa therapiwtig ar gyfer hunanfynegiant. Mae Hyfforddiant Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl ynghyd â chyrsiau Cymorth Cyntaf Brys hefyd ar gael.
Iechyd a Llesiant Darganfyddwch dulliau newydd o ymlacio ac adfywio gyda Thylino Bambŵ. Ar gyfer y rheiny sy’n ymddiddori mewn uwch dechnegau harddwch, mae Nodwyddu’r Croen yn cynnig hyfforddiant arbenigol i ehangu sgiliau proffesiynol.
Crefftau a Sgiliau Ymarferol Bydd dysgwyr ymarferol wrth eu bodd gyda’n cyflwyniadau i Gyrsiau Byr mewn Bricwaith, Gwaith Saer, Plastro a Phlymio. Mae’r cyrsiau hyn yn berffaith i unrhyw un sy’n ystyried gyrfa mewn adeiladwaith neu eisiau ennill galluoedd ymarferol ar gyfer bywyd bob dydd.
Chwaraeon a Ffitrwydd Os mai ffitrwydd yw eich hoffter, mae Hyfforddi Ffitrwydd Chwaraeon yn rhoi’r wybodaeth i chi i gymell pobl eraill ac arwain sesiynau’n hyderus.
Sgiliau Digidol Rhowch hwb i’ch rhagolygon gyrfa gyda’n cyfres o gyrsiau TG: Excel i Ddechreuwyr, Canolradd ac Uwch. Am gymhwyster cynhwysfawr, mae’r Drwydded Yrru Gyfrifiadurol Ryngwladol yn sicrhau eich bod yn barod ar gyfer y gweithle yn yr oes ddigidol sydd ohoni.
Bwyd a Chrefft Yn olaf, gallwch fwydo eich ochr greadigol gyda Bara Crefftus (Artisan) a Phasteiod Perffaith – cyrsiau sy’n cyfuno sgiliau â chanlyniadau blasus.
Mae llu o raglenni rhan-amser eraill yn cael eu cynnal drwy gydol y flwyddyn hefyd! Mae gennym #Dewis i bawb – beth am ymchwilio i’ch opsiynau heddiw a gwnewch 2026 y flwyddyn ar gyfer buddsoddi ynddoch chi eich hun!
I gael manylion llawn ewch i nptcgroup.ac.uk/cy/cyrsiau-ionawr a dewch o hyd i’r cwrs cywir i chi.
Grŵp Colegau NPTC – Wrth Galon Eich Dyfodol