Mae Myfyriwr Coleg Y Drenewydd yn Cynrychioli Cymru yn y Rownd Derfynol, Cwpan Dawns Y Byd yn Nulyn

Student Jessie Roberts at the Dance World Cup Finals with a Welsh flag.

Mae myfyriwr talentog Coleg Y Drenewydd wrthi’n ymbaratoi i gynrychioli Cymru ar lwyfan y byd ar ôl ennill lle yn y Rownd Derfynol, Cwpan Dawns Y Byd yn Nulyn.

Cyflawnodd Jessie Roberts, myfyriwr Lefel 3 yn y Celfyddydau Perfformio yn Y Drenewydd lwyddiant aruthrol wrth fynd trwyddo fel y cyntaf yng Nghymru ym maes Dawns Gyfoes ac yn bedwaredd yng Nghymru yng nghategori Jazz Unawd, ac yn ennill ei lle yn Rownd Derfynol Cwpan Dawns Y Byd.

Bob blwyddyn, mae mwy na 20,000 o ddawnswyr o fwy na 70 o wledydd yn cystadlu mewn digwyddiadau cenedlaethol ar gyfer y cyfle o fri i gamu ymlaen i Rownd Derfynol Cwpan Dawns Y Byd. Fe’i disgrifir yn aml fel Gemau Olympaidd y Byd Dawns, a’r gystadleuaeth hon yw’r digwyddiad mwyaf sy’n cwmpasu pob genre o ddawnsiau yn y byd ac yn arddangos y lefelau uchaf o ddoniau.

Ochr yn ochr â’i hastudiaethau Lefel 3 anodd, mae Jessie hefyd yn chwarae rhan annatod ym maes perfformio yn y gymuned ddawns yn y fro. Mae ganddi rôl arweiniol yng nghynhyrchiad Academi NYP o Shrek the Musical JR, a gynhelir yn Theatr Hafren, ddydd Gwener 7 Chwefror, gyda pherfformiadau yn y prynhawn a gyda’r hwyr.  Mae tocynnau ar gael gan y Swyddfa Docynnau, Theatr Hafren.

Dywedodd Elizabeth Hedbden, Darlithydd yn y Celfyddydau Perfformio yng Ngholeg Y Drenewydd:
“Rydyn ni’n hynod o falch o waith caled Jessie yn y Coleg a’r tu allan i’w hastudiaethau i gyrraedd safon mor uchel. Mae ei hyfforddwr yn Academi NYP Freya Rowlands, a minnau wrth ein bodd gyda’i llwyddiant a byddwn ni’n ei chefnogi hi bob cam o’r ffordd wrth iddi gystadlu ar lwyfan y byd.  Mae Jessie wir yn ysbrydoliaeth.”

Mae Coleg Y Drenewydd yn llongyfarch Jessie yn fawr ar ei champ aruthrol ac yn dymuno pob lwc iddi hi wrth iddi gynrychioli Cymru yn Rownd Derfynol Cwpan Dawns Y Byd.

Cliciwch y botwm isod i gael gwybod mwy am ein cyrsiau Celfyddydau Creadigol, Gweledol a Pherfformio.

Celfyddydau Gweledol a Pherfformio Creadigol