Mae Cyn-Brentis Peirianneg yn Ysbrydoli’r Genhedlaeth Nesaf yn Ysgol Uwchradd Y Drenewydd

Engineering apprentice Piers Garpar with a drone.

Mae Hyfforddiant Pathways yng Ngrŵp Colegau NPTC yn falch i fod wrthi’n ysbrydoli peirianwyr yfory trwy ymgysylltu’n ddiweddar â disgyblion Blwyddyn 10 a Blwyddyn 11 yn Ysgol Uwchradd y Drenewydd, yn arddangos y cyfleoedd cyffrous a gwerthfawr sydd ar gael gyda phrentisiaeth mewn peirianneg.

Arweiniwyd y sesiwn gan Theressa Mullinder, o Hyfforddiant Pathways, ochr yn ochr â chyn-brentis Piers Gaspar, y mae ei lwybr gyrfa yn enghraifft gadarnhaol o bosibiliadau prentisiaeth. Dechreuodd Piers ei brentisiaeth mewn peirianneg gyda Hyfforddiant Pathways fwy na phedair blynedd yn ôl, gyda chefnogaeth Carpenter & Paterson Ltd, a leolir yn Y Trallwng , ar yr un pryd â chyflawni ei gymhwyster mewn Cyflawni Gweithrediadau Peirianneg Lefel 2 (PEO).

Rhannodd Piers sut yr oedd ei ymrwymiad a’i uchelgais yn ei sbarduno i fynd y tu hwnt i’w astudiaethau craidd, gan gyflawni naw o gymwysterau mewn weldio a adnabuwyd gan y diwydiant, ochr yn ochr â’i hyfforddiant mewn Technolegau Peirianneg. Enillodd y cyflawniad hwn statws  “Coded Welder” iddo, ai’ droi yn weithiwr proffesiynol medrus iawn yr oedd galw mawr amdano o fewn i’r diwydiant peirianneg.

Wrth adeiladu ar y sylfaen gadarn hon, aeth Piers yn ei flaen i weithio yn Technocover Ltd a leolir yn Y Trallwng, yn cyfrannu at brosiectau mawr ym meysydd seilwaith a diogelwch cenedlaethol. Roedd ei waith yn cynnwys prosiectau ar gyfer Gorsaf Pwêr Hinkley Point C, safleoedd llynges niwclear, Canolfan MI5 yn Llundain, carcharau, a gweithio ar ddrysau labordy a chloriau tyllau caead arbenigol.  Yn ystod y cyfnod hwn, llwyddodd Piers hefyd i gyflawni ei Brentisiaeth Lefel 3 mewn Peirianneg, gan rymuso ei arbenigedd technegol ymhellach.

Ym mis Hydref 2025, yn 25 oed yn unig, cymerodd Piers y cam nesaf yn ei yrfa wrth gychwyn ar radd baglor mewn peirianneg fecanyddol ym Mhyrifysgol Harper Adams a leolir yn Sir Amwythig.  Siaradodd yn eiddgar am ei astudiaethau yn y brifysgol wrth ddisgyblion, yn cynnwys ail-ddylunio drôn a delio â heriau peirianneg yn y byd go iawn trwy ddatrys problemau mewn dull blaengar.

Roedd yr ymweliad yn brofiad ysbrydoledig ac yn un rhyngweithiol, gan roi’r cyfle i ddisgyblion ofyn cwestiynau, clywed am fywyd fel Prentis o lygad y ffynnon a gweld potensial gyrfa mewn peirianneg  yn y tymor hir. Mae Hyfforddiant Pathways yn parhau i hyrwyddo prentisiaethau fel llwybr cadarn i yrfaoedd medrus â chyflog da sy’n canolbwyntio ar y dyfodol, gan helpu pobl ifanc i droi uchelgais yn gyflawniad.

Cliciwch y botwm isod i gael gwybod mwy am gyfleoedd Prentisiaeth Hyfforddiant Pathways.

Prentisiaethau yng Ngrŵp Colegau NPTC