Daeth cynrychiolwyr dysgwyr o bob rhan o Grŵp Colegau NPTC ynghyd yn Theatr Brycheiniog ar gyfer Diwrnod Dathlu Cynrychiolwyr Myfyrwyr blynyddol eleni – digwyddiad ysbrydoledig a oedd yn tynnu sylw at bŵer llais myfyrwyr a’r effaith gadarnhaol sydd gan gynrychiolwyr ar draws y sefydliad.
Rhoddodd y diwrnod gyfle i ddysgwyr ddathlu eu cyflawniadau, datblygu sgiliau newydd, a chymryd rhan mewn trafodaethau ystyrlon sy’n helpu i lunio dyfodol Grŵp Colegau NPTC.
Un o uchafbwyntiau allweddol y bore oedd sesiwn a gyflwynwyd gan Branwen Miles a Bethan Roberts o Senedd Cymru, a gynigiwyd fel rhan o bartneriaeth blwyddyn o hyd. O’r enw Fy Mhleidlais Gyntaf, anogodd y gweithdy ddysgwyr 16 oed a hŷn i gofrestru i bleidleisio cyn etholiadau lleol 2026. Esboniodd y sesiwn rôl a phwerau’r Senedd, gan ddatgymalu terminoleg wleidyddol, archwilio gwahanol safbwyntiau gwleidyddol, a phwysleisio pwysigrwydd gwneud penderfyniadau gwybodus i’r rhai sy’n pleidleisio am y tro cyntaf.
Bu Pwyllgor Gwaith Undeb y Myfyrwyr ar y llwyfan hefyd yn rhannu’r wybodaeth ddiweddaraf am eu gwaith, prosiectau sydd ar ddod, a sut y gall arweinyddiaeth myfyrwyr ddylanwadu ar fywyd coleg. Anogodd Swyddogion UM gynrychiolwyr dosbarth i gydweithio’n agos â’r undeb i gryfhau cynrychiolaeth dysgwyr a sicrhau diwylliant adborth adeiladol ar draws Grŵp Colegau NPTC.
Roedd thema ganolog eleni yn canolbwyntio ar iechyd meddwl a llesiant. Cynhaliodd y Tîm Llesiant, ynghyd â chydweithwyr o Adferiad, weithdy diddorol a agorodd sgyrsiau ynghylch gwydnwch, y cymorth sydd ar gael, a strategaethau llesiant ymarferol. Neges amlwg o’r sesiwn oedd y slogan syml ond effeithiol: “mae calon gan bawb.” Roedd y sesiwn holi ac ateb a ddilynodd wedi caniatáu i fyfyrwyr geisio eglurder ar y llwybrau cymorth sydd ar gael yn y coleg a thrwy sefydliadau allanol.
Yn y prynhawn, cymerodd y dysgwyr ran yn un o sesiynau mwyaf disgwyliedig y digwyddiad – Amser Cwestiynau’r UDRh. Cyflwynodd cynrychiolwyr gwestiynau meddylgar i aelodau’r Uwch Dîm Rheoli, gan gynnig syniadau ac adborth ar sut y gall profiad y dysgwr barhau i esblygu. Dangosodd y ddeialog agored aeddfedrwydd a hyder y cynrychiolwyr eleni, a siaradodd yn angerddol ar ran eu cyfoedion.
Dywedodd James Morris, Uwch Swyddog Ymgysylltiad, Llesiant a Chynhwysiant Myfyrwyr:
“Mae bob amser yn bleser dod â myfyrwyr o’n holl safleoedd i un lleoliad i ddathlu’r amrywiaeth a’r profiad dysgu cyfoethog yn y coleg. I lawer o ddysgwyr sydd ar fin dechrau’r cyfnod asesu ac arholiadau, roedd y digwyddiad yn atgof o’r mecanweithiau sydd ar waith i helpu i’w cefnogi a’u cynnal. Daeth llawer o’n cynrychiolwyr â myfyriwr ychwanegol gyda nhw, a gobeithio y rhoddodd hynny fewnwelediad pellach i’n diwylliant adborth cylchol yng Ngrŵp Colegau NPTC.”
Mae’r coleg yn estyn diolch mawr i’r holl fyfyrwyr a gymerodd ran, i’r staff a gyfrannodd, ac i bartneriaid ac asiantaethau allanol am eu cymorth gwerthfawr drwy gydol y dydd. Aeth pob mynychwr â bag am ddim adref yn llawn danteithion trwy garedigrwydd Ffreuturau Grŵp Colegau NPTC, Jacky’s Vending a Harlech Food Services.