Cydbwyso’r Llyfrau a’r Esgidiau Rygbi

Student Lowri Hill on a rugby pitch in Wales kit

Mae Lowri Hill, chwaraewr rygbi ail res yng Ngrŵp Colegau NPTC yn gwneud enw iddi’ hun ym myd rygbi menywod ar yr un pryd â chyflawni ei hastudiaethau Safon Uwch mewn Troseddeg, Seicoleg ac Addysg Gorfforol.  Mae Lowri wedi cystadlu ar bob lefel, gan gynrychioli’r Gweilch Menywod o dan 18 oed, Gorllewin PDC o dan 18 oed, ac, ar hyn o bryd, mae hi’n rhan o dîm estynedig Menywod Cymru o dan 18 oed yn y Chwe Gwlad.

Wedi’i hysbrydoli gan ei theulu a’i ffrindiau, mae Lowri wedi bod yn chwarae rygbi er yn 10 oed. Mae ei hymrwymiad ato mor gryf â’i hymroddiad i’w hastudiaethau. Er ei bod yn teimlo bod ei phynciau Safon Uwch yn heriol, mae hi’n gwerthfawrogi’r gwaith caled a’r ddisgyblaeth sy’n dod wrth gydbwyso ei chyfrifoldebau academaidd a chwaraeon. Mae hi hefyd yn tynnu sylw at y cymorth a ddarperir gan staff y coleg, sydd wedi ei helpu i reoli terfynau amser a chynnal ei chynnydd academaidd ochr yn ochr â’i hymrwymiadau chwaraeon.

Mae hi hefyd yn chwaraewr yn academi pêl-rwyd y Coleg os oes amser ganddi ac mae hi’n rhagori yn y maes hwn hefyd, sydd unwaith eto’n dangos ei gallu fel athletwr drwyddi draw.

Ychwanegodd ei darlithydd Chwaraeon Rhiannon Simms:

“Mae Lowri yn enghraifft ffantastig o sut mae ymrwymiad a gwaith caled ar y maes ac yn yr ystafell ddosbarth yn gallu arwain at lwyddiant. Mae hi’n cydbwyso ei hastudiaethau academaidd â rygbi ar lefel elitaidd gyda ffocws a phenderfyniad ac mae hi wir yn ysbrydoliaeth i fyfyrwyr eraill.  Mae ei chyfranogiad i rygbi a phêl-rwyd yn tynnu sylw at ei hyblygrwydd a’i hymrwymiad fel athletwr.”

Mae chwarae rygbi wedi rhoi cyfle i Lowri gwrdd â phobl newydd a dod yn rhan o dîm agos. Mae dwysedd uchel a chyflymdra’r hyfforddiant wedi bod yn werth chweil ond hefyd yn heriol, yn gofyn am ffocws, gwydnwch ac ymrwymiad. Roedd cael ei dethol ar gyfer tîm estynedig Cymru Chwe Gwlad o dan 18 oed yn achlysur arbennig o falch, yn enwedig ar ôl adfer o anafiad diweddar ac mae’n adlewyrchu’r gwaith caled a’r dyfalbarhad y mae hi wedi eu dangos ar hyd y blynyddoedd.

Dywedodd Lowri hyn am astudio yn y Coleg;

“Mae bod yng Ngrŵp Colegau NPTC hefyd wedi fy ngalluogi i ddatblygu o safbwynt academaidd ac athletaidd.  Dwi wedi manteisio ar gyfleoedd i dyfu fy sgiliau ar y maes ac oddi arno, ar yr un pryd â mwynhau’r agweddau cymdeithasol ar fywyd yn y coleg, a’r cymorth sydd ar gael gan athrawon a chymheiriaid. Wrth edrych ymlaen at y dyfodol, dwi’n gobeithio mynychu’r brifysgol ac ennill gradd a fydd yn cefnogi fy uchelgeisiau gyrfa a hefyd yn parhau i ddatblygu ym maes rygbi ar lefelau uwch.”