Myfyrwyr Ffasiwn a Thecstilau yn Dathlu Llwyddiant Cystadleuaeth, Cydweithredu Etifeddiaeth ac Arddangosiadau Cyhoeddus

Fashion Academy Products

Mae myfyrwyr o’r adran Ffasiwn a Thecstilau wrthi’n dathlu cyfres o gyflawniadau cyffrous, cydweithrediadau creadigol ac arddangosiadau cyhoeddus sy’n tanlinellu eu doniau, eu harloesedd a’u hymgysylltiad o ran diwydiant ac etifeddiaeth.

Gan adeiladu ar lwyddiant yn gynharach yn ystod y tymor wrth i Ceri Anne Davies gyflawni’r ail le yn y gystadleuaeth Skills Wales mewn ffasiwn a thecstilau, mae’r adran yn parhau i adeiladu ar dwf cynyddol trwy gyfrwng ystod o brosiectau creadigol a chydweithredol.

Roedd gwaith gan Academi Ffasiwn Coleg Y Drenewydd ym maes dylunio patrymau wedi’u hailadrodd yn rhan o arddangosiad a gynhaliwyd gan Pryce Jones, yn dathlu cysylltiadau eiconig â ffasiwn y fro.

Cyflawnodd myfyrwyr prosiect patrymau ailadrodd mewn cydweithrediad â’r Hwb Etifeddiaeth ar gyfer y Canolbarth, ac roeddent yn gweithio o dan arweiniad arbenigol artist lleol Brian Jones. Wrth dynnu ysbrydoliaeth o gatalog canmlwyddiant Prys Jones, roedd y prosiect yn annog myfyrwyr i ail-ddehongli dyluniadau hanesyddol trwy sbectols cyfoes.  Fel rhan o’r fenter “For the Love of Pryce Jones”, bydd y gwaith sydd wedi’i gwblhau yn cael ei arddangos yn Llyfrgell Y Drenewydd trwy gydol mis Mai mewn arddangosfa gyhoeddus am ddim.

Mwynhaodd Brian Jones, artist o’r Canolbarth, yrfa o fri fel darlunydd tecstilau gan dreulio blynyddoedd lawer yn stiwdios darlunio Laura Ashley. Mae e’n falch iawn o’r ffaith bod y dyluniadau argraffu a grëwyd ganddo yn ystod y cyfnod hwnnw yn dal i gael eu hadnabod yn fyd-eang ac yn dal yr un mor boblogaidd heddiw ag yr oeddynt yn ystod yr ugeinfed ganrif.

At hynny, aeth myfyrwyr Ffasiwn a Thecstilau yn ddiweddar ar ymweliad cyfoethogi  i weld Amgueddfa Cerflunwaith. Andrew Logan. Mae Andrew Logan MBE yn gerflunydd o Loegr, artist perfformio, gwneuthurwr gemwaith a sefydlwr Miss World amgen ac fe’i adnabuwyd am ei ddefnydd dyfeisiol o wydr, drychau a gwrthrychau wedi’u ffeindio, ei weithiau llachar a phenigamp – o gerfluniau i gelf gwisgadwy sydd wedi cael eu harddangos yn fyd-eang. Yn 1991 agorwyd yr Amgueddfa Cerflunwaith Andrew Logan yng Nghymru, i ddathlu ei yrfa eclectig sy’n pontio’r celfyddydau, theatr a sioeau.  Yn ystod yr ymweliad, cafodd myfyrwyr y cyfle unigryw i gefnogi gwaith cadw ar wisgoedd eiconig yr amgueddfa, gan ennill mewnwelediad ymarferol i mewn i dechnegau cadw, ar yr un pryd ag ymgysylltu’n uniongyrchol â chasgliad dylanwadol o wisgoedd ffasiwn artistiaid.

Trwy gydol mis Mehefin bydd ymwelwyr y coleg yn cael cyfle i weld detholiad o brosiectau ffasiwn gan fyfyrwyr, sy’n cael eu harddangos yng nghyntedd y prif goleg ac sy’n tanlinellu’r amrywiaeth o sgiliau, creadigrwydd ac arloesi a geir o fewn i’r adran.

Mae’r gweithgareddau hyn yn tanlinellu ymrwymiad yr adran i gyfuno rhagoriaeth greadigol, profiad go iawn yn y byd ac ymgysylltiad cymunedol, gan baratoi myfyrwyr ar gyfer gyrfaoedd deinamig o fewn i’r diwydiant ffasiwn a thecstilau.