Dawns Coleg Castell-nedd yn Atgyfnerthu ei Enw Da am Ragoriaeth ym Mherfformiad Arddangosfa’r Haf
Mae Coleg Castell-nedd wedi gosod y safon ers tro byd ar gyfer dawns yn y sector addysg bellach, gan gynnig ystod o gyrsiau dawns academaidd a galwedigaethol arbenigol a darparu hyfforddiant arbenigol i unrhyw ddawnsiwr ifanc sy’n gobeithio llwyddo ryw ddydd fel dawnsiwr proffesiynol.
Dros y 25 mlynedd diwethaf, nid yn unig y mae myfyrwyr dawns o Goleg Castell-nedd wedi bod yn cyflawni’r graddau uchaf ar ddiwrnod y canlyniadau, ond maent hefyd wedi bod yn ennill lleoedd i hyfforddi’n uwch mewn conservatoires a phrifysgolion dawns pwrpasol fel; Ysgol Ddawns Gyfoes Llundain, Trinity Laban, Academi Urdang, Canolfan London Studio, Academi Addict, Sefydliad Celfyddydau Perfformio Lerpwl a Choleg y Perfformwyr.
Eleni perfformiodd cwmni dawns swyddogol y Coleg, ‘Cwmni Dawns Ieuenctid LIFT’, am y 21ain blwyddyn yng Nghanolfan Gelfyddydau Taliesin yn Abertawe ac nid yn unig y tynnodd y llwyfan sylw at ragoriaeth flaenllaw yn y sector, fe wnaeth argraff hefyd ar lu o weithwyr proffesiynol y diwydiant dawns.
Craig Coombs yw Arweinydd Pwnc Dawns, sydd wedi darlithio yn y Coleg ers dros 20 mlynedd. Gwnaeth y sylw canlynol:
“Mae gan bob myfyriwr dawns yng Ngholeg Castell-nedd un peth yn gyffredin, sef potensial. Mae pob un ohonyn nhw’n deall, er mwyn cyflawni eu hamcanion yn llawn, y bydd gweithio ar y cyd â’u darlithwyr yn eu helpu i wneud ymdrech tuag at adeiladu dyfodol yn y diwydiant dawns.”
Aeth Mr. Coombs, a hyfforddodd yn y Laban nodedig, conservatoire blaenllaw Ewrop ar gyfer dawns gyfoes yn Llundain, ymlaen i ddweud:
“Mae Cwmni Dawns Ieuenctid LIFT, ynghyd â Dawns Ieuenctid Coleg Castell-nedd yn rhannu’r llwyfan yn yr arddangosfa eleni. Mae’r gwaith dawns ar y llwyfan yn dangos doniau dawns datblygol y myfyrwyr, ac yn mynd gam ymhellach, gan ei fod hefyd yn darparu llwyfan i ddarlithwyr dawns y Coleg gyflwyno eu gwaith coreograffig eu hunain, fel artistiaid dawns yn eu rhinwedd eu hunain.”
Roedd y noson ddawns yn cynnwys gwaith myfyrwyr dawns TGAU, Safon Uwch a galwedigaethol y Coleg, a oedd wedi cael clyweliad i fod yn rhan o’r perfformiad yn gynharach yn y flwyddyn. Roedd un gwaith dawns nodwedd a goreograffiwyd gan y fyfyrwraig ddawns Maisie Davies a phedwar arall a grëwyd gan ddarlithwyr dawns y Coleg; Daniella Powell, Elise Addicsott a Craig Coombs. Ar ben hynny, crëwyd gwaith estynedig ar gyfer Dawns Ieuenctid Coleg Castell-nedd o’r enw ‘Pobl Y Ddraig’ a ganolbwyntiodd ar fytholeg a llên gwerin Cymru, gan adeiladu ar genhadaeth y Coleg i hyrwyddo’r defnydd o iaith a diwylliant Cymru fel rhan o’r cwricwlwm.
Gweithiodd Sian Rowlands, sef Artist Ymgysylltu Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru, gyda Dawns Ieuenctid Coleg Castell-nedd yn gynharach yn y flwyddyn a dywedodd:
“Yn CDCCymru, rydyn ni’n mwynhau gweithio gyda Choleg Castell-nedd, sydd wedi cymryd rhan yn ein Llwyfan Dawns Ieuenctid LANSIO yn flaenorol. I berfformwyr iau a gymerodd ran ac i’r rhai a wyliodd y sioe, dangosodd Coleg Castell-nedd lwybr dilyniant clir ar gyfer y rhai efallai nad ydynt yn gwybod ble i fynd nesaf gyda’u dawnsio. Dangosodd eu gwaith gryfder a chrefft dechnegol sylweddol yn ogystal ag ymgorfforiad clir o’r sgôr gerddorol. Dangosodd y dawnswyr i gyd broffesiynoldeb mawr ac roeddent yn fodelau rôl rhagorol i ddawnswyr iau. Ar lefel bersonol, roedd yn blser pur i weld cynifer o ddawnswyr ymroddedig yn mynd â’u dawnsio i lefel uwch o astudiaeth.”
Mae dawns yng Ngholeg Castell-nedd wedi cynnig ‘mwy nag addysg yn unig’ erioed, mae’n cynnig cyfle gwirioneddol i’w holl ddawnswyr ifanc gymryd y pwnc o ddifrif, fel y gallent hwy hefyd fod yn ar flaen y gad dros ddawns ledled Cymru a thu hwnt un diwrnod.
Gwnaeth Jamie Jenkins, pennaeth dawns Dawns Ieuenctid Genedlaethol Cymru, wedi gweithio gyda’r Coleg ers blynyddoedd lawer, y sylw a ganlyn:
“Mae Cwmni Dawns Ieuenctid LIFT yn gyfle gwych i ddawnswyr ifanc, uchelgeisiol herio ac ymestyn eu hunain yn greadigol ac yn dechnegol dan arweiniad tîm eithriadol o bobl greadigol. Mae ymrwymiad y tîm a’r Coleg i feithrin doniau a thwf artistig yn wirioneddol ysbrydoledig. Mae dod i un o berfformiadau LIFT bob amser yn uchafbwynt yn fy nghalendr, gan arddangos angerdd, ymroddiad a rhagoriaeth y genhedlaeth nesaf o artistiaid dawns.”
Mae gwaddol llwyddiant cyrsiau dawns yng Ngholeg Castell-nedd bellach ymhlith y cyn-fyfyrwyr, sydd wedi mynd ymlaen i weithio’n broffesiynol ar lu o brosiectau. Rhannodd Linzi Rumph, a oedd yn ddawnswraig i Gwmni Dawns Ieuenctid LIFT yn ei flwyddyn gyntaf un ac sydd bellach yn Swyddog Datblygu Cymuned Artis, ei meddyliau am y noson:
“Roedd y perfformiad yn wych, gan arddangos lefel eithriadol o dalent, creadigrwydd a sgiliau technegol gan y dawnswyr. Fel cyn-fyfyriwr yng Ngholeg Castell-nedd, rwy’n hynod falch o weld sut mae’r cyrsiau hyn wedi tyfu a datblygu dros y blynyddoedd. Mae rhoi cyfle i fyfyrwyr greu, datblygu a chyflwyno eu gwaith eu hunain yn amhrisiadwy, gan roi llwyfan iddynt feithrin hyder a phrofiad fel artistiaid sy’n dod i’r amlwg.”
Wrth gwrs, mae Coleg Castell-nedd bellach yn edrych tua’r dyfodol gyda llawer o gynlluniau ar y gweill ar gyfer Cwmni Dawns Ieuenctid LIFT a Dawns Ieuenctid Coleg Castell-nedd. Mae gan y flwyddyn academaidd nesaf lawer i’w gynnig i’r myfyrwyr dawns gan gynnwys cynhyrchiad dawns Nadolig newydd sbon, ymweliad addysgol arbenigol â sîn ddawns Llundain, perfformiadau yng Ngŵyl Ddawns Abertawe a chyfle arall i fyfyrwyr berfformio gyda Chwmni Dawns Ransack, dan gyfarwyddyd Sarah Rogers, a oedd â hyn i’w ddweud ar ôl cydweithrediad diwethaf y cwmni â’r Coleg:
“Roedd yn bleser gweithio gyda myfyrwyr dawns Coleg Castell-nedd ar brosiect a welodd nhw’n ymarfer ac yn perfformio fflachdorf fel rhan o’n cynhyrchiad teithiol proffesiynol yn 2024. Dangosodd y myfyrwyr frwdfrydedd, proffesiynoldeb ac ymrwymiad eithriadol drwy gydol y broses, yn y stiwdio ac ar y llwyfan, gan berfformio ochr yn ochr â’n dawnswyr proffesiynol yng Nghanolfan Gelfyddydau Taliesin. Roedd eu perfformiad yn y fflachdorf yn rhagorol, ac roedd y gefnogaeth a ddarparwyd gan staff y coleg yn amhrisiadwy. Edrychwn ymlaen at ddychwelyd y flwyddyn nesaf i gydweithio â charfan newydd o fyfyrwyr wrth iddynt greu cyflwyniad cychwynnol ar gyfer ein perfformiad yn Llanelli.”
O ran addysg dawns, mae’n amlwg i bawb fod gan Goleg Castell-nedd bopeth y gallai dawnsiwr ifanc erioed ei eisiau. Daeth Rhian Jones, Rheolwr Datblygu’r Celfyddydau yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot, i’r perfformiad gan roi canmoliaeth:
“Diolch yn fawr iawn am roi noson mor wych o ddawns ymlaen, roedd yn drawiadol iawn…Roedd y perfformiad yn bleser pur i’w wylio. Gwnaeth creadigrwydd y coreograffi a hyder y dawnswyr ar y llwyfan sefyll allan yn fawr, gan arddangos dyfnder y doniau sy’n cael eu meithrin yn y coleg.”
Yn olaf, gwnaeth Natalie Hulatt, cynrychiolydd y myfyrwyr dawns presennol, a berfformiodd yn yr arddangosfa, sylwadau ar ei phrofiad, gan ddweud:
“Roedd bod yn rhan o gynhyrchiad LIFT yn brofiad hynod werth chweil a ganiataodd i ni ddatblygu nid yn unig fel dawnswyr, ond fel artistiaid ifanc hefyd. Mae cymryd rhan yn y cynhyrchiad wedi rhoi cyfle i ni herio ein hunain yn greadigol, cydweithio â’n cymheiriaid, a thyfu gyda’n gilydd fel perfformwyr. Dangosodd y cynhyrchiad greadigrwydd, ymroddiad a phroffesiynoldeb pawb ac rwy’n falch o fod yn rhan o gynhyrchiad a ddangosodd botensial y genhedlaeth nesaf o ddawnswyr.
Am ragor o wybodaeth am yr ystod o gyrsiau dawns sydd ar gael ar draws cyrsiau addysgol 14-19 y Coleg, cliciwch y botwm isod neu cysylltwch â craig.coombs@nptcgroup.ac.uk.