Wedi ysgaru. Wedi’i benio. Yn fyw! – Cyn-fyfyrwyr Lauren Drew yn serennu yn sioe gerdd boblogaidd Six

Mae’r cyn-fyfyriwr Lauren Drew wedi dychwelyd i Gymru am sioe gerdd sy’n adrodd hanes gwragedd Harri VIII – SIX.  Siaradodd yr Alumnus o adran Celfyddydau Perfformio Grŵp Colegau NPTC â’r Western Mail yn ddiweddar, dyna beth oedd ganddi i’w ddweud:

C: Pryd/sut wnaethoch chi ddarganfod eich angerdd at berfformio?

A: Dechreuais fel dawnsiwr disgo dull rhydd ac unwaith i mi fachu’r teitl mwyaf y gallwn i, sef ‘Pencampwr y Pencampwyr’, symudais ymlaen at ganu ac actio. Perfformiais fy rôl gyntaf erioed fel Sandy yn Grease ym Mlwyddyn 6, a oedd braidd yn wahanol, a phan es i’r ysgol uwchradd perfformiais gwpl o rolau arweiniol, gan ddarganfod gwir angerdd ato – gwnes i TGAU mewn Drama a Cherddoriaeth. Wedyn, es i Grŵp Colegau NPTC i astudio at Ddiploma BTEC mewn Celfyddydau Perfformio. Yno, ces i’r cyfle i wneud cryn nifer o sioeau a pherfformio mewn llawer o rolau arweiniol, dysgais i lawer ac fe bwysleisiodd hynny i mi faint yr oeddwn i’n dwlu arno ac mai dyna oedd fy ngalwedigaeth. Dyna’r hyn yr oeddwn eisiau ei wneud a’r hyn yr oeddwn yn ei wneud orau. Fy swydd gyntaf erioed yn y West End oedd dirprwy Nicola yn Kinky Boots – gwireddu breuddwyd oedd bod yn y West End.

C: Beth all cynulleidfaoedd ei ddisgwyl gan SIX?

A: Gall y cynulleidfaoedd ddisgwyl lawer o hwyl, cryn dipyn o egni ac addysg. Mewn gwirionedd, rydym wedi meddwl y dylai fod yn rhan o’r cwricwlwm ysgol presennol, oherwydd y dysgais lawer mwy am chwe gwraig Harri VIII trwy wneud SIX nag y gwnes i erioed yn yr ysgol.

C: Rydych chi’n chwarae rôl Catrin o Aragón; a allwch chi ddisgrifio ei chymeriad mewn chwe gair?

A: Yn gyffredinol mae Catrin o Aragón yn sasi iawn. Mae hi’n gryf iawn, mae hi’n annibynnol, yn ffraeth, yn hunan-hyderus ac yn ymroddedig.

C: Pa un o’r breninesau sydd fwyaf tebyg i chi?

A: Aragón yn ôl pob tebyg – oherwydd y ffordd dw i wedi’i phortreadu hi, dw i wedi ceisio rhoi fy hun i mewn i’r cymeriad, felly bydd elfen o fi yno wrth gwrs. Ond hefyd Anne Boleyn mae’n debyg – mae hi ychydig bach yn wallgof, sydd ychydig yn fwy fel fi. Pwynt cyfan y sioe, a’r cyfarwyddyd a roddwyd i ni, yw i ni seilio fe ar safbwynt o wirionedd ac arnom ni ein hunain – fel bod [ein cymeriadau] yn fersiynau egotistaidd estynedig o’n hunain – a dyna pam dw i wedi penderfynu perfformio Aragón braidd yn wahanol i’r ffordd mae hi fel arfer yn cael ei pherfformio, oherwydd fy mod yn wahanol i’r merched sy’n ei pherfformio hi fel arfer.

C: Ydych chi’n edrych ymlaen at berfformio’r sioe i gynulleidfa yng Nghymru?

A: Ni allaf aros am berfformio’r sioe i gynulleidfaoedd yng Nghymru. Dw i wedi gwneud Theatr Newydd Caerdydd o’r blaen a oedd yn anhygoel, a mwynheais yn fawr iawn. Ond dyma fwy o leoliad, dw i byth wedi gwneud Canolfan Mileniwm Cymru o’r blaen, felly dw i’n hynod gyffrous i’r cynulleidfaoedd sydd yno i’n gweld, a dw i’n gwybod y byddan nhw’n rhoi egni anhygoel i ni alw arno wrth i ni wneud y sioe. Mae gennyf lawer o ffrindiau a theulu’n dod, a’r hyn sy’n anhygoel yw – ni all fy mam-gu deithio – felly mae’r ffaith y bydd hi’n fy ngweld yng Nghaerdydd yn wirioneddol anhygoel o arbennig i mi.

C: Mae SIX wedi mynd yn gryn dipyn o ffenomen, a oedd ymgymryd â’r sioe yn heriol?

A: Ydy, mae wedi mynd yn ffenomen. Nid heriol mo’r gair, roeddwn i’n gyffrous iawn i ymgymryd â SIX – roeddwn eisoes wedi cael y profiad selogion mawr gyda Heathers, a rhwng y ddwy sioe mae’r selogion yn eithaf tebyg – felly roeddwn eisoes wedi cael blas arno, a oedd yn braf. Roeddwn i’n gallu cymathu hynny’n araf deg. Ond ie, roeddwn i’n hynod gyffrous achos bod y sioe hon yn ddelfrydol i mi.

C: Pam, yn eich barn chi, y mae SIX mor boblogaidd gyda chynulleidfaoedd?

A: Rwy’n credu oherwydd bod SIX mor gyfredol a pherthnasol. Yr hyn rwy’n dwlu arno amdani yw bod y sioe yn cyfleu – yn enwedig gyda chyfryngau cymdeithasol a’r rhaglenni teledu yr ydym i gyd yn eu gwylio nawr, ac Instagram a hidlyddion a’r holl bethau eraill sy’n cymryd cymaint o’n hamser, mae’n eithaf hawdd mynd yn dipyn o ryfelwr bysellfwrdd, ac yn eithaf ansicr a ddim yn gyfforddus yn eich croen eich hun – ac mae hynny’n eithaf anffodus – agwedd negyddol ar y byd sydd ohoni. Mae SIX yn cyfleu neges dda iawn na dylem gymharu ein hunain â’n gilydd; cofleidiwch bwy ydych chi, cofleidiwch eich naws unigryw a dathlwch hi. Oherwydd eich bod yn unigryw, ceisiwch fod y fersiwn gorau ohonoch chi ag y gallwch a pheidiwch â dynwared unrhyw un arall.

C: Rydych chi a’r breninesau eraill ar y llwyfan gyda’ch gilydd trwy gydol y sioe, sut brofiad oedd cydweithio â nhw?

A: Arbennig iawn – mae’n brofiad rhyfeddol tu hwnt pan fyddwch yn cwrdd â grŵp o bobl rydych yn gwybod y bydd rhaid i chi fynd ar daith hir iawn gyda nhw, ac wedyn yn yr wythnos gyntaf  rydych yn gwybod ei fod yn mynd i weithio! Mae gennym gydbwysedd aruthrol o egnïon a phersonoliaethau yn y cast. Profiad grymusol iawn yw bod ar y llwyfan gyda nhw! Nid dim ond y chwech ohonom mohono, mae band llawn ar y llwyfan hefyd – ac rydym i gyd yn fenywod, ac mae mor anhygoel o anarferol i weld hynny mewn sioe.