Crynodeb o’r cwrs

Nod y cwrs dwy flynedd hwn yw rhoi llwybr gyrfa i Esports i fyfyrwyr fel dylunydd gemau, datblygwr, cynhyrchydd fideo, cynhyrchydd cynnwys digidol, technegydd neu ffrydiwr neu i feysydd Technoleg Ddigidol cysylltiedig eraill megis rhwydweithio, marchnata digidol, rheoli digwyddiadau, hyfforddi, neu ddatblygu eich busnes eich hun. Mae’r cymhwyster yn cynnwys ehangder o sgiliau trosglwyddadwy sy’n galluogi dysgwyr i brofi gwahanol feysydd esport i’w cynorthwyo i symud ymlaen i gyflogaeth, naill ai’n uniongyrchol neu drwy astudiaeth bellach. Mae’r cymhwyster hwn wedi’i gymeradwyo gan Gymdeithas Esports Prydain fel un sy’n addas ar gyfer dysgwyr sydd eisiau gweithio yn y diwydiant.