Crynodeb o’r cwrs
Mae cyrsiau AAT (Cymdeithas y Technegwyr Cyfrifyddu) a gynigir yn rhoi cyfle i fyfyrwyr ennill profiad ac i symud ymlaen yn eu gyrfaoedd cyfrifyddu. Mae cyrsiau’n cynnwys tair lefel. Mae pob lefel yn cynrychioli cymhwyster ynddo’i hun.
Mae myfyrwyr yn derbyn tystysgrif ar gyfer pob lefel a gyflawnir. Mae angen cofrestru gydag AAT a thelir cost hyn yn uniongyrchol i’r corff proffesiynol.
Mae’r unedau’n cynnwys Datganiadau Ariannol Cwmnïau Cyfyngedig, Cyfrifeg Rheoli: Cyllidebu, Cyfrifeg Rheoli: Penderfyniad a Rheolaeth, ynghyd â 2 uned ddewisol ac asesiad Synoptig Proffesiynol a fydd yn darparu dealltwriaeth dda i’r gweithiwr cyfrifyddu newydd neu’r rhai sy’n dymuno mynd i mewn i’r amgylchedd cyfrifyddu.