Crynodeb o’r cwrs

Mae Diploma Lefel 3 City & Guilds mewn Pobi Uwch, Patisserie a Sgiliau Melysion yn gwrs Addysg Bellach Llawn Amser a ddyluniwyd ar gyfer myfyrwyr sydd â diddordeb mewn gweithio fel pobydd neu felysydd yn y diwydiant arlwyo. Mae hwn wedi’i leoli yn yr adran Arlwyo, Lletygarwch ac Amaeth (CHA).

Mae’r cwrs blwyddyn hwn yn arbenigo mewn sgiliau pobi uwch, patisserie a melysion ar gyfer y rhai sydd am symud ymlaen i lefel oruchwylio mewn becws neu gegin broffesiynol.

Cyflwynir y cymhwyster trwy sesiynau ymarferol a theori ynghyd â phrofiad gwaith go iawn yn ein Blasws Siop Fecws. Byddwch yn datblygu repertoire eang o sgiliau o fara artisan i waith siocled a siwgr.