Crynodeb o’r cwrs
Mae’r cwrs undydd hwn yn datblygu eich gwybodaeth am Microsoft Excel y tu hwnt i lefel sylfaenol, gan eich galluogi i weithio’n hyderus gyda thaenlenni mwy cymhleth. Mae’r cwrs yn canolbwyntio ar ddefnyddio taflenni gwaith lluosog, fformiwlâu cymhleth, swyddogaethau a thempledi i gefnogi trin data yn effeithiol. Mae’n addas ar gyfer dysgwyr sydd eisiau cryfhau eu sgiliau Excel ar gyfer gwaith, astudio neu symud ymlaen i gyrsiau Excel Uwch.
Diwrnod ac amser: Dydd Mercher, 9.00am i 5.00pm
Dyddiad dechrau: Sawl dyddiad ar gael
Hyd: Un Diwrnod
Dull cyflwyno: Ar-lein
I bwy mae’r cwrs hwn?
• Oedolion sydd eisoes â dealltwriaeth sylfaenol neu ganolradd o Microsoft Excel
• Dysgwyr sydd wedi cwblhau’r cwrs Excel i Ddechreuwyr neu sydd â phrofiad cyfwerth
• Y rhai sy’n awyddus i wella sgiliau taenlenni yn y gweithle a symud ymlaen i Excel Uwch
Yr hyn y byddwch yn ei ddysgu
• Sut i ddefnyddio taflenni gwaith lluosog i drefnu a chysylltu data
• Sut i ddefnyddio fformiwlâu cymhleth, swyddogaethau a chyfeiriadau celloedd absoliwt
• Sut i greu, cadw a defnyddio templedi taenlenni
Ar ôl cwblhau’r cwrs, byddwch yn gallu cynhyrchu taenlenni effeithiol gan ddefnyddio nodweddion uwch sy’n cefnogi cywirdeb, cysondeb ac effeithlonrwydd.