Crynodeb o’r cwrs
Cynlluniwyd y cymhwyster hwn i roi’r wybodaeth i ddysgwyr ddeall egwyddorion sylfaenol ôl-osod domestig. Mae’n rhoi trosolwg i ddysgwyr o’r wybodaeth a ddefnyddiwyd, yr ystyriaethau iechyd a diogelwch, yr adnoddau a ddefnyddiwyd, y risgiau o ddifrod, gofynion cytundebol a’r prosesau sy’n gysylltiedig â gweithgareddau ôl-osod.
Nid oes unrhyw ofynion mynediad ffurfiol, fodd bynnag, byddai profiad yn y diwydiant adeiladu o fudd.
Bydd cynrychiolwyr llwyddiannus yn cael mwy o gyfleoedd cyflogaeth yn sector ôl-osod y diwydiant adeiladu, yn ogystal â'r cyfle i symud ymlaen i Ddiploma NVQ Lefel 2 neu 3 mewn Inswleiddio a Thriniaethau Adeiladu.
Mae’r cwrs yn cynnwys yr unedau canlynol:-
1. Cyflwyniad i Ôl-osod Domestig
2. Gwybodaeth Ôl-osod Domestig
3. Iechyd a Diogelwch
4. Deunyddiau Ôl-osod Domestig
5. Gwarchod y Maes Gwaith
6. Gwybodaeth Contract Ôl-osod
7. Prosesau Ôl-osod Domestig Cyffredin
Asesir y cymhwyster hwn trwy arholiad amlddewis.
Bydd gofyn i fyfyrwyr brynu gwerslyfrau ar gyfer y cwrs hwn. Gellir trafod hyn gyda thiwtor y cwrs cyn dechrau'r cwrs.