Crynodeb o’r cwrs

Mae’r ICDL yn gymhwyster a gydnabyddir yn rhyngwladol sy’n dangos gwybodaeth am gysyniadau sylfaenol mewn TG, megis rheoli ffeiliau, prosesu geiriau, taenlenni, cronfeydd data, graffeg cyflwyniadau a defnyddio’r rhyngrwyd. Caiff y cwrs ei astudio’n annibynnol gan y dysgwr trwy ddeunydd wedi’i gynllunio’n ofalus gyda’r nod o ddarparu taith glir a dealladwy drwy wahanol elfennau’r cwrs. Mae’r hyblygrwydd i astudio o amgylch ymrwymiadau eraill yn gwneud hwn yn opsiwn poblogaidd i unrhyw un sydd eisiau dysgu ar eu cyflymder eu hunain dros y flwyddyn academaidd. Mae dysgwyr hefyd yn derbyn cefnogaeth ac arweiniad drwy gydol y cwrs gan gydlynydd y cwrs.