Tystysgrif Estynedig Lefel 2 BTEC mewn Technoleg Gwybodaeth a Technoleg Greadigol (Amser Llawn)
Crynodeb o’r cwrs
Mae’r cwrs Lefel 2 TG Digidol a Thechnoleg Greadigol yn cael ei ddarparu gan yng Ngrŵp Colegau NPTC ar gyfer myfyrwyr sy’n dymuno archwilio ystod eang o lwybrau technoleg ddigidol a chreadigol. Bydd myfyrwyr yn datblygu gwybodaeth TG hanfodol a sgiliau ymarferol, gan gynnwys codio, datblygu meddalwedd, systemau digidol a defnyddio technoleg mewn cyd-destunau busnes. Mae hwn yn gymhwyster ymarferol sy’n seiliedig ar waith, lle mae myfyrwyr yn dysgu drwy brosiectau realistig ac aseiniadau sy’n seiliedig ar senarios diwydiant, gan gefnogi dilyniant i gyflogaeth neu astudio pellach.
Mae angen i fyfyrwyr gael 3 TGAU ar Radd C neu uwch, gan gynnwys Mathemateg neu Saesneg. Fel arall, gall myfyrwyr symud ymlaen o gymhwyster Lefel 1 perthnasol mewn TG ar Radd Teilyngdod neu uwch, yn amodol ar gyfweliad llwyddiannus.
Mae’r cymhwyster hwn yn cefnogi dilyniant i astudio ar lefel uwch mewn Technoleg Gwybodaeth neu Dechnoleg Greadigol, neu gyflogaeth lefel mynediad o fewn amrywiaeth o sefydliadau busnes a TGCh. Mae cyfleoedd gyrfa posibl yn cynnwys:- Gweithredwr Cyfrifiadur
- Technegydd Cymorth TG dan Hyfforddiant
- Technegydd Cymorth Defnyddwyr Terfynol
- Prentisiaeth TG
Mae unedau nodweddiadol a astudir ar y cwrs hwn yn cynnwys:Semester Un:
- Y Byd Ar-lein (Asesiad Allanol)
- Systemau Technoleg (Asesiad Allanol)
- Datblygu Taenlenni
- Datblygu Gwefannau
Semester Dau:
- Portffolio Digidol (Gorfodol)
- Datblygu Cronfeydd Data
- Datblygu Meddalwedd
- Gosod a Chynnal Caledwedd Cyfrifiadurol
Mae’r asesiad yn gyfuniad o arholiadau a asesir yn allanol ac aseiniadau a asesir yn fewnol, a gwblheir drwy gydol y cwrs.
Efallai y bydd costau ychwanegol sy’n gysylltiedig â’r cwrs, megis llyfrau testun ac ymweliadau addysgol.