Crynodeb o’r cwrs

Mae Diploma Estynedig UAL Lefel 3 mewn Celf a Dylunio yn gwrs celfyddydau cyffredinol Addysg Bellach Amser Llawn, sy’n eich galluogi i ennill profiad a sgiliau ymarferol ar draws ystod eang o dechnegau celf a dylunio. Mae’r cwrs hwn wedi’i gynllunio ar gyfer myfyrwyr sydd am ddod yn ddylunydd, artist neu gael gyrfa greadigol. Mae hwn wedi’i leoli yn adran y Celfyddydau Creadigol, Gweledol a Pherfformio (CVP).

Os ydych chi wedi ymrwymo i astudio ymhellach neu yrfa yn y maes hwn, yna dyma’r cwrs i chi. Mae’r maes llafur yn ddeinamig ac yn eang, gan gynnig llawer o gyfleoedd cyffrous i chi ddefnyddio’ch dychymyg a’ch creadigrwydd. Mae gallu lluniadu a sgiliau ymarferol yn hanfodol, tra bod sgiliau cyfrifiadurol da hefyd yn bwysig. Bydd angen llygad arnoch am siâp a lliw, sgiliau dadansoddi da a pharodrwydd i arbrofi, ynghyd ag ymrwymiad a dyfalbarhad. * Dim ond fel rhan o’r cwrs hwn yng Ngholeg Castell-nedd ac Afan y cynigir Bagloriaeth Cymru.