Crynodeb o’r cwrs

Mae cwrs Diploma Estynedig UAL Lefel 3 mewn Celfyddydau Perfformio a Chynhyrchu yn gwrs Llawn Amser. Mae hwn wedi’i gynllunio ar gyfer myfyrwyr sydd am ddod yn Berfformiwr, gweithio yn y diwydiant Celfyddydau Creadigol a Chynhyrchu. Mae hwn wedi’i leoli yn adran y Celfyddydau Creadigol, Gweledol a Pherfformio (CVP).

Mae’r diwydiant celfyddydau perfformio yn hynod gystadleuol a heriol ond gall fod yn hynod werth chweil. I fod yn llwyddiant yn y maes hwn, mae angen talent a phersonoliaeth arnoch chi, yn ogystal â llawer iawn o frwdfrydedd a phenderfyniad.

Yma, yng Ngrwp Colegau NPTC, rydym yn ymroddedig i ddarparu’r addysgu a’r dysgu gorau i bobl sydd am ddilyn gyrfa barhaol yn y Celfyddydau Perfformio.

Byddwch yn cael cyfle i fod yn rhan o ystod eang o weithgareddau perfformio fel rhan o Gwmni Theatr Ovation (Coleg y Drenewydd), gan ddefnyddio ein stiwdio a Theatr Hafren.