Er mwyn nodi dysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol a fydd yn cofrestru yn y coleg, rydym yn gweithio’n agos gydag ysgolion lleol a’r Awdurdod Addysg Lleol.
Mae’r Cod ADY yn dweud bod yn rhaid i’r coleg gael caniatâd y person ifanc i gynnal neu ysgrifennu CDU. Mae’n bwysig bod hyn yn cael ei drafod, fel bod y person ifanc yn deall ei hawliau, ac yn cael cyfle i rannu ei farn, ei ddymuniadau a’i deimladau.
Mae ein Swyddogion Pontio ac Adolygu Coleg yn mynychu cyfarfodydd adolygu ysgolion ar gyfer dysgwyr ag Anghenion Dysgu Ychwanegol. Maent yn gwneud hyn i ddeall anghenion pob dysgwr a chasglu’r wybodaeth sydd ei hangen i sicrhau eu bod yn cael eu cefnogi’n dda pan fyddant yn dechrau yn y coleg.
Anogir pob Dysgwr i ddatgelu unrhyw ADY neu rwystrau i ddysgu ar ffurflen gais y coleg.
Yn ystod nosweithiau agored a digwyddiadau derbyn, bydd y Tîm Anghenion Dysgu Ychwanegol wrth law i ateb unrhyw gwestiynau a allai fod gennych.