Beth sydd angen i mi ei wisgo ar gyfer fy Ngraddio?

  • Rhaid i bob graddedig wisgo gwisg academaidd lawn (gŵn, cwfl, mortarbord).
  • Rhaid archebu gwisg academaidd gan ein partner swyddogol Ede & Ravenscroft.
  • Mae archebu’n agor yr wythnos yn cychwyn 1af Medi 2025 ac yn cau ddydd Gwener 3ydd Hydref 2025.
  • Bydd angen eich taldra, cylchedd eich pen, a dyddiad graddio arnoch wrth archebu.
  • Mae’r seremoni yn achlysur ffurfiol, ac mae’r rhan fwyaf o raddedigion yn dewis gwisgo’n smart o dan eu gwisg academaidd.
  • Os ydych chi wedi cyflawni mwy nag un cymhwyster yn y tair blynedd diwethaf, dewiswch eich dyfarniad uchaf.
  • Ni all myfyrwyr sy’n aros am ganlyniadau ailsefyll archebu gynau nes bod y canlyniadau wedi’u cadarnhau.