Dathlu a Gwobrwyo Llwyddiant Myfyrwyr

Mae’r Coleg yn cydnabod ac yn gwobrwyo myfyrwyr am eu cyflawniadau a’u hymdrechion trwy ddarparu ystod o ysgoloriaethau a bwrsariaethau gwobrau ariannol. Mae myfyrwyr sy’n derbyn gwobrau yn chwarae rhan bwysig wrth hyrwyddo’r Coleg, gan gynnwys:

  • Siarad â darpar fyfyrwyr mewn sesiynau cyfweld, diwrnodau blasu ac ymweld ag ysgolion lleol
  • Cynrychioli eu meysydd astudio mewn nosweithiau agored
  • Hyrwyddo’r Ardal Myfyrwyr a gwasanaethau cymorth myfyrwyr
  • Mentora cyd-fyfyrwyr

Mae rôl hefyd i Lysgenhadon Myfyrwyr i hyrwyddo’r Coleg i’n cymunedau lleol y tu allan i sefydliadau.