Faint o docynnau alla i gael?

  • Mae dau docyn gwestai yn cael eu dyrannu i bob graddedig. (Nid oes angen tocyn ar raddedigion.)
  • Bydd tocynnau’n cael eu harchebu drwy swyddfa docynnau Neuadd Gwyn ar ôl i’r gŵn gael ei logi. Anfonir dolen drwy e-bost at raddedigion.
  • Dim ond trwy docyn y gellir mynd i mewn. Rhaid dangos tocynnau’n ddigidol neu eu hargraffu.
  • Ni fydd unrhyw docynnau ychwanegol ar gael – ni fydd gwesteion heb docynnau yn cael mynediad.
  • Mae pob tocyn am ddim.