Oes yna ffotograffydd swyddogol?

  • Bydd ffotograffiaeth broffesiynol ar gael gydag Ede & Ravenscroft.
  • Mae ffotograffiaeth yn ddewisol a gellir ei harchebu ar yr un pryd â llogi gŵn.
  • Mannau ffotograffiaeth swyddogol:
    • Prif Neuadd Bloc AB – portreadau unigol o raddedigion yn unig.
    • Canolfan Gelf Nidum – ffotograffiaeth deuluol.
  • Mae croeso i chi a’ch gwesteion dynnu eich lluniau a’ch fideos eich hun hefyd.
    Darperir arddangosfeydd lluniau yng Nghanolfan Gelf Nidum ar gyfer graddedigion a’u gwesteion.