Pryd mae archebu tocynnau, gynau a ffotograffiaeth yn agor?

Bydd archebu gynau a bwciadau ffotograffiaeth yn cael eu rheoli drwy Enet (fel yn y blynyddoedd blaenorol), gan agor yr wythnos yn dechrau 1af Medi a chau ar 3ydd Hydref.

Gwnewch yn siŵr eich bod wedi archebu eich gŵn a’ch tocynnau drwy Enet erbyn dydd Gwener, 3ydd Hydref. Yn anffodus, os na fydd hyn wedi’i gwblhau, ni fyddwch yn gallu cymryd rhan yn y seremoni raddio.