Tîm Cyllid Myfyrwyr

Bydd y Cynorthwywyr Gwasanaethau Myfyrwyr a Busnes yn rhoi cyngor ar gymhwysedd ar gyfer Lwfans Cynhaliaeth Addysg (LCA), Grant Dysgu Llywodraeth Cymru (WGLG), Y Gronfa Ariannol Wrth Gefn (FCF), grantiau Cyllid Addysg Uwch/benthyciadau cynhaliaeth ac ateb ymholiadau trafnidiaeth leol. Gall y tîm hefyd helpu gyda ffurflenni cais ar gyfer y grantiau uchod yn ogystal ag awdurdodi absenoldebau a rhoi Llythyrau Cadarnhad Myfyrwyr i fyfyrwyr.

Gellir cysylltu â’r Tîm Cyllid Myfyrwyr ar e-bost: studentsupport@nptcgroup.ac.uk.