Education Together UK

Mae Education Together UK yn Gonsortiwm Coleg y Deyrnas Unedig ar gyfer America Ladin a’r Caribî. Grŵp Colegau NPTC yw arweinydd y consortiwm ac maent yn cydweithio â Warwickshire College Group a Choleg Glasgow.
Mae’r Consortiwm yn hwyluso symudedd myfyrwyr i ac o’r DU, gan weithio i alluogi cyfleoedd i fyfyrwyr gymryd rhan mewn rhaglen cyfnewid diwylliannol. Felly, darparu profiadau addysgol bythgofiadwy trwy gysylltu myfyrwyr â gweithwyr proffesiynol a chyfoedion i ehangu eu gorwelion diwylliannol. Mae’r Consortiwm yn ymdrechu i hyrwyddo profiadau dysgu newydd a sgiliau gwerthfawr i helpu myfyrwyr gyda’u hastudiaethau a’u haddysg yn y dyfodol.