Chwaraeon a Gwasanaethau Cyhoeddus

Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff

Mae gan Grŵp Colegau NPTC enw da sefydledig am lwyddiant chwaraeon, gyda chyn-fyfyrwyr yn ennill cydnabyddiaeth ryngwladol mewn amrywiaeth o chwaraeon.

Mae ein cyfleusterau yn Academi Chwaraeon Llandarcy yn cynnwys neuadd chwaraeon ryngwladol, wal ddringo, ystafell cryfder a chyflyru, trac dan do 60m, cyfleuster aml-chwaraeon dan do, a chae 4G. Gall myfyrwyr hefyd ddefnyddio ein hystafelloedd Canolfan Dysgu Electronig (ELC) llawn offer ynghyd ag ystafell gyffredin i fyfyrwyr sydd â theledu a thenis bwrdd.

Mae gan lawer o’n staff chwaraeon brofiad hyfforddi ar y lefel uchaf, a fydd yn datblygu galluoedd chwaraeon myfyrwyr, yn ogystal â bod yn rhan o’r academi a rhaglenni cyfoethogi.

Gall gyrfaoedd mewn Chwaraeon gynnwys hyfforddwr chwaraeon, athro Addysg Gorfforol, swyddog chwaraeon anabledd, therapydd chwaraeon, dadansoddwr chwaraeon, maethegydd chwaraeon, hyfforddwr campfa neu swyddog cymunedol chwaraeon.

Os ydych chi am roi hwb i’ch gyrfa ym myd cyffrous Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff, yna gallai ein HND fod yn iawn i chi.

Gwasanaethau Cyhoeddus

Mae gwasanaethau cyhoeddus yn rhan hanfodol o’n cymdeithas a bydd ein Diploma Cenedlaethol Uwch mewn Gwasanaethau Cyhoeddus yn ddi-os yn gosod y sylfaen ar gyfer gyrfa yn y lluoedd arfog, gwylwyr y glannau, ambiwlans, yr heddlu neu’r gwasanaethau tân. Er enghraifft, mae llawer o’n cyn-fyfyrwyr wedi symud ymlaen i yrfaoedd amrywiol mewn sectorau cyhoeddus mewn lifrai, gan gynnwys gwasanaethau brys golau glas a’r lluoedd arfog.

Yn ogystal, mae’r adran yn cynnal ymweliadau addysgol ledled y wlad i dynnu sylw at yrfaoedd posibl mewn Gwasanaethau Cyhoeddus mewn Lifrai. Os ydych chi am ddechrau gyrfa gyffrous mewn Gwasanaethau Cyhoeddus, yna gallai ein HND fod yn iawn i chi.

Cyrsiau
Gwasanaethau Cyhoeddus – HND (Amser-Llawn) - Addysg Uwch a Graddau
Gwyddor Chwaraeon Ac Ymarfer Corff – HND (Amser-Llawn) - Addysg Uwch a Graddau