Oes gennych chi ddiddordeb mewn hyfforddiant Arlwyo?
Bydd y cymhwyster hwn yn cefnogi amrywiaeth o swyddi yn y gegin a blaen y tŷ, megis pen-cogydd, goruchwyliwr bwyty, cynorthwyydd cegin, a staff gweini, neu swyddi tebyg.
Yn Pathways Training, rydym yn cynnig prentisiaethau mewn arlwyo a fydd yn darparu cymhwyster cydnabyddedig i ddysgwyr. Bydd y dysgwyr yn datblygu sgiliau yn y gweithle a bydd angen iddynt dreulio rhywfaint o amser yn y Coleg.
Rydym yn cynnig:
Lefel 2
Prentisiaeth Sylfaen
Gallai’r unedau gynnwys: Cynnal a chadw amgylchedd gwaith saff, hylan a diogel; coginio a chwblhau prydau cig sylfaenol; coginio a chwblhau prydau llysiau sylfaenol; paratoi, coginio a chwblhau sawsiau poeth sylfaenol; paratoi, coginio a chwblhau prydau reis sylfaenol, a llawer mwy.
Lefel 3
Prentisiaeth
Gallai’r unedau gynnwys: Cynnal diogelwch bwyd wrth baratoi, cadw a choginio bwyd; creu prydau iachach; cyfrannu at ddatblygu ryseitiau a bwydlenni; paratoi, coginio a chwblhau cynhyrchion bara a thoes cymhleth, a llawer mwy.
Mae’r prentisiaethau’n cynnwys:
- Diploma CGC (Cymhwyster Galwedigaethol Cenedlaethol) mewn Coginio Proffesiynol
- Tystysgrif mewn Egwyddorion Lletygarwch ac Arlwyo
- Sgiliau Hanfodol mewn Cyfathrebu
- Sgiliau Hanfodol mewn Cymhwyso Rhifau
- Sgiliau Hanfodol mewn Cyflogadwyedd
Y llwybrau sydd ar gael
- Gwasanaethau Lletygarwch
- Gwasanaethau Bwyd a Diod
- Cynhyrchu a Choginio Bwyd
- Coginio Proffesiynol
- Goruchwylio ac Arwain Lletygarwch
Gofynion mynediad
Mae’n rhaid i’r dysgwyr:
- Fod yn byw neu’n gweithio yng Nghymru
- Fod yn gyflogedig am o leiaf 16 awr bob wythnos drwy gydol y brentisiaeth.
Mae’n rhaid i bob dysgwr gael asesiad cychwynnol.
At beth y bydd y cymhwyster yn arwain?
Ar ôl cwblhau pob lefel, caiff y dysgwyr symud ymlaen at:
- Oruchwylio ac Arwain Lletygarwch
- Cymwysterau arbenigol